Gwahoddiad Seremonïau Graddio 2022
8 Mehefin 2022Darllenwch y neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 8 Mehefin at raddedigion 2022.
Annwyl fyfyriwr/myfyriwr graddedig,
Gobeithio eich bod chi’n cadw’n iawn a bod eich arholiadau a’ch asesiadau’n mynd yn dda. Os oes angen cymorth arnoch neu os oes angen syniadau arnoch ar sut i ‘adolygu ac ymlacio’ mae gan ein timau Bywyd Myfyrwyr, Llyfrgelloedd ac Undeb y Myfyrwyr amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi.
Ers fy ebost diwethaf ddechrau mis Mai a lansiad ein Porth Archebu, rydym yn falch o weld bod gymaint ohonoch yn archebu tocynnau ar gyfer ein dathliadau Graddio.
Rydym yn parhau i fireinio ein cynlluniau yn unol â’r hyn yr ydych chi a’ch cynrychiolwyr myfyrwyr yn ei ddweud wrthym. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n Swyddogion Etholedig yn Undeb y Myfyrwyr sy’n parhau i roi eu hadborth a’u cefnogaeth.
Gwyddom eich bod wedi croesawu cyflwyno digwyddiadau cydnabod yr Ysgolion (hyd at 140 y dydd). Yn ogystal, rydym hefyd wedi newid y trefniadau eistedd yn Stadiwm Principality mewn ymateb i’ch adborth. Bydd pob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yn gallu eistedd lle bynnag yr hoffech ym mhowlen y Stadiwm, yn hytrach nag yn ôl Ysgol, fel bod modd i chi eistedd gyda’ch ffrindiau, waeth beth fo’u Hysgol Academaidd neu lefel astudio.
Nodyn atgoffa archebu
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch Diwrnod Graddio, rydym yn argymell eich bod yn manteisio ar yr holl elfennau gwahanol ac os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, archebwch eich tocynnau drwy ein Porth Archebu cyn 23 Mehefin.
- Y Seremoni raddio yn Stadiwm Principality yw eich digwyddiad seremonïol lle bydd yr Is-Ganghellor ac aelodau o gymuned ein Prifysgol yn cyflwyno eich gradd, ynghyd â siaradwyr ysbrydoledig, Cymrodyr Er Anrhydedd, a pherfformiadau cerddoriaeth byw.
- Digwyddiadau cydnabod yr Ysgolion, a drefnir gan eich Ysgol Academaidd, yw eich cyfle chi i gerdded a gwrando ar eich enw yn cael ei ddarllen ar goedd. Cynhelir y digwyddiadau hyn mewn lleoliadau ar draws campws Parc Cathays, a bydd yr union leoliad yn cael ei gadarnhau yn y Porth Archebu a thrwy ebost, ym mis Gorffennaf. Dylech fod yn ymwybodol efallai y bydd angen i ni newid amser eich digwyddiad cydnabod Ysgol i fodloni gofynion archebu. Os bydd hyn yn angenrheidiol, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn eich cefnogi gydag unrhyw addasiadau i’ch archeb Gerddi Graddio.
- Mae’r Gerddi Graddio yn lle anffurfiol lle gallwch ddal i fyny â ffrindiau a staff dros luniaeth ysgafn. Bydd wedi’i leoli y tu allan i’r Prif Adeilad, Horsehoe Drive a rhodfeydd cyfagos.
- Mae’r Pentref Graddio yn agored i bob ymwelydd ac mae’n cynnwys amrywiaeth o werthwyr sy’n cynnig bwyd, diodydd ac adloniant. Bydd wedi’i leoli ym maes parcio’r Prif Adeilad, Plas y Parc, a gallwch alw heibio yn ystod eich diwrnod, nid oes angen tocyn.
Tocynnau ar gyfer Stadiwm Principality
Ymddiheuriadau i’r rhai ohonoch a allai fod wedi cael anawsterau wrth archebu, rydym yn deall bod y Stadiwm wedi mynd i’r afael â’r materion hyn, ond efallai y bydd y canlynol o gymorth i chi:
- Nid oes angen i chi archebu tocyn i chi’ch hun, dim ond ar gyfer eich gwesteion.
- Ar ôl cofrestru, rhaid i chi aros dros nos i’ch cyfrif gael ei actifadu cyn y gallwch archebu tocynnau eich gwesteion
- Bydd angen i chi a’ch gwesteion lawrlwytho ap tocynnau Stadiwm Principality sy’n rhad ac am ddim er mwyn lawrlwytho a dangos eich tocynnau ar y diwrnod (rhaid i bob deiliad tocyn ddangos ei docyn ei hun).
Dyddiadau rhyddhau tocynnau ychwanegol
Unwaith y bydd cyfnod y gwahoddiad cyntaf drosodd a bod pob archeb i raddedigion wedi’i chadarnhau, byddwn yn rhyddhau tocynnau ychwanegol ar gyfer rhai elfennau o’r diwrnod.
- Y Seremoni raddio yn Stadiwm Principality – os ydych am archebu mwy na’r pedwar tocyn gwestai sydd eisoes ar gael i chi, byddwch yn gallu gwneud hynny am £30 y pen drwy eich cyfrif Stadiwm Principality rhwng 24 Mehefin a 3 Gorffennaf.
- Gerddi graddio – os ydych am archebu mwy na’ch dau docyn rhad ac am ddim i westeion, byddwch yn gallu gwneud hynny am £10 y pen drwy’r Porth Archebu rhwng 27 Mehefin a 3 Gorffennaf.
Elfennau pellach i’r dathliadau Graddio
Mae elfennau ychwanegol i’r dathliadau Graddio efallai yr hoffech fanteisio arnynt wrth ddathlu a chofio’r achlysur pwysig hwn, megis:
- Archebu eich ffotograffiaeth – opsiynaua chostau
- Archebwch eich hwdi graddio ag enwau pawb yn eich dosbarth arno erbyn 10 Mehefin.
- Archebwch eich nwyddau a’ch anrhegion graddio ar-lein
- Ymuno yng ngŵyl Raddio Undeb y Myfyrwyr
- Rhannwch eich stori #GraddCdydd.
Yn olaf, os ydych yn cael trafferthion ariannol o ran costau graddio, gallwch wneud cais am gymorth. Dyfarniad sy’n seiliedig ar brawf modd yw hwn, sy’n gofyn am asesiad ariannol. Cwblhewch ffurflen gais y Rhaglen Cymorth Ariannol ar SIMS a’i chyflwyno, ynghyd â’ch tystiolaeth ategol cyn 17 Mehefin 2022.
Edrychaf ymlaen at eich gweld ar gyfer y dathliadau Graddio, yn y cyfamser, ewch i dudalen we’r Graddio am ragor o wybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Yn gywir,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014