Newyddion yr Is-Ganghellor

REF, Y Genhadaeth Ddinesig, plastig untro

Annwyl gydweithiwr

Roedd y digwyddiad nodedig y mis hwn, wrth gwrs, yn ganlyniad hir-ddisgwyliedig i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), lle’r oeddem yn anelu at gyrraedd y 12fed safle yn gyffredinol ar gyfer Pŵer Ymchwil. Fel y gwyddoch, daethom yn 14eg yn y diwedd, ar ôl colli’r cyfle i ddod yn 13eg gan drwch blewyn i Brifysgol Glasgow, a phob clod iddyn nhw. Ysgrifennais atoch yn gynharach y mis hwn yn esbonio pam rydym yn fodlon iawn ar y canlyniad hwn. Felly, ni fyddaf yn ailadrodd beth a ddywedais bryd hynny. Un peth y byddwn yn ei ychwanegu yw bod canlyniadau’r REF yn set ddata gymhleth, aml-ddimensiwn. Gellir ei dehongli mewn llawer o wahanol ffyrdd i gyfiawnhau ystod o ddadleuon, a diau y byddwn ymhell o fod ar ein pennau ein hunain wrth ddatgan bod ein canlyniad yn un cadarnhaol. Bydd pob sefydliad, grŵp lobïo neu gymdeithas bwnc sy’n dymuno cyflwyno achos drosto’i hun yn gweld rhywbeth defnyddiol yn y data, hyd yn oed os oes angen dadansoddiad dyfeisgar neu sbotoleuo trwyadl. Wedi dweud hynny, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, boed o ran cyllid neu enw da, y gallwn fod yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Ond y tu hwnt i hynny, mae’r ymarfer yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol: helpu cydweithwyr i wneud y mwyaf o’u llwyddiant o ran cyhoeddiadau ac allbynnau ymchwil eraill yw’r flaenoriaeth amlwg. Bydd angen i gam nesaf ein strategaeth ymchwil ganolbwyntio ar ddarparu’r math cywir o amgylchedd cefnogol ar gyfer ein hymchwilwyr, ynghyd ag arweiniad ar sut i lwyddo, yn enwedig i’r rhai sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa. Mae ein strategaeth ers 2014 wedi bod yn un o gefnogaeth a chynwysoldeb, ac rydym wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd y gallwn ei defnyddio’n llwyddiannus wrth inni edrych ymlaen at 2028.

Mae REF yn gêm hir, fel y mae’r elfen allweddol arall honno o’n strategaeth, Y Genhadaeth Ddinesig. Ym mis Mai gwelwyd dwy garreg filltir allweddol wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn hyn o beth. Ddydd Sadwrn 21 Mai, cynhaliwyd lansiad cyhoeddus, neu agoriad mawreddog, Pafiliwn Grange. Mae’r Pafiliwn newydd, llawer mwy yn ei le, yn ganolbwynt i’r Prosiect Porth Cymunedol dan arweiniad yr Athro Mhairi McVicar o’r Ysgol Pensaernïaeth. Fel un o Brosiectau Ymgysylltu Blaenllaw y Ffordd Ymlaen gwreiddiol, mae’r Porth Cymunedol yn enghraifft ragorol o sut mae’n bosibl, trwy weithio gyda’r gymuned leol a gwneud y Genhadaeth Ddinesig yn rhan o strategaeth y Brifysgol, i ymgysylltu ag ysgolion, asiantaethau lleol ac yn anad dim. aelodau o’n cymunedau lleol wrth gydweithio i wneud newid a gwelliannau gwirioneddol sydd o fudd i bawb. Yn gwbl briodol, ni ddaeth yr £1.8 miliwn o Gyllid y Loteri Genedlaethol a gododd tîm y Porth Cymunedol i ddylunio ac adeiladu’r cyfleusterau newydd i’r Brifysgol na thrwyddi, ond ni all fod unrhyw amheuaeth ein bod wedi gallu cefnogi’r broses o dan arweiniad Mhairi a helpu i wireddu’r hyn a fyddai fel arall wedi bod yn arswydus o anodd. Ar y diwrnod, daeth dros fil o bobl Grangetown a thu hwnt ynghyd i ddathlu’r gamp, a’r wythnos ganlynol cyfarfu Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yno fel bod pawb yn nhîm arwain y Brifysgol yn ymwybodol o bwysigrwydd a graddfa’r cyfleusterau a’r gweithgareddau. Mae’r adeilad ei hun wedi ennill dwy wobr gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru am ddod â newid ystyrlon i gymuned Grangetown, ac mae Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bwysigrwydd. Mae’r mathau hyn o gydnabyddiaeth allanol yn bwysig, ond rhaid mai barn y gymuned leol yw’r prawf asid bob amser, sy’n parhau i fod yn gwbl ymroddedig a brwdfrydig.

Yn hwyrach yn y mis, gwnaethom gynnal ein diwrnod blynyddol cyntaf erioed ar gyfer y Genhadaeth Ddinesig yn sbarc|spark – ein hadeilad arloesedd newydd gwych yn y Maendy.Mae sbarc | spark wedi’i gynllunio i danio cysylltiadau serendipaidd newydd trwy ddod â phobl ynghyd mewn amgylchoedd sy’n ffafriol i chwalu rhwystrau ac annog trawsffrwythloni. Roedd rhaglen y diwrnod yn ei gwneud yn glir nid yn unig ein bod yn parhau yn nhraddodiad y mudiad anheddu prifysgolion, lle’r oedd prifysgolion ar ddiwedd y 19eg ganrif yn estyn allan i’w cymunedau lleol i weithio mewn partneriaeth â hwy i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithas, ond hefyd bod y trawsffrwythloni yr oeddem yn gobeithio amdano eisoes yn digwydd. Soniais yn fy ebost diwethaf am lwyddiant prosiect Treftadaeth Caer, sydd nid yn unig wedi hwyluso adeiladu canolfan gymunedol newydd arall, y tro hwn yn ardal Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, ond sy’n cydweithredu â phrosiectau archaeoleg bryngaerau tebyg mewn mannau eraill. Gwelwn hefyd enghraifft y prosiect Pharmabees, a arweiniodd yr Athro Les Baillie diymarbed, sy’n gweithio gyda phrosiectau eraill y Genhadaeth Ddinesig ac ystod o ysgolion ac asiantaethau. Yn y diwedd, y rheswm dros fynd ar drywydd ymchwil ac addysgu rhagorol yw er budd cymdeithas, a thrwy ein Cenhadaeth Ddinesig rydym yn gwneud hynny’n realiti diriaethol ac yn dangos yn glir i’r byd lwyddiant ein hymdrechion yn hyn o beth.

Cyn symud at fy mhwynt nesaf, rwyf am gydnabod y modd adeiladol a chymwynasgar y daeth cangen leol Undeb y Prifysgolion a’r Colegau i gytundeb wedi’i negodi â’r Brifysgol i ganslo’r gweithredu diwydiannol a fyddai wedi parhau am weddill y flwyddyn academaidd. Rwy’n siŵr bod pob un ohonom yn falch ac yn teimlo rhyddhad y bydd ein myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau, symud ymlaen a graddio yn ôl y bwriad. I’r garfan sy’n graddio yn benodol mae wedi bod yn dair blynedd anodd iawn ac mae’n gadarnhaol iawn na fydd y pryder pellach hwnnw arnyn nhw.

Wrth i COVID gilio, a bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cael gwared ar yr holl gyfyngiadau sy’n weddill, byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus yn hytrach nag yn hunanfodlon, rhag ofn i’r sefyllfa waethygu eto. Fodd bynnag, amser da yw hwn i atgoffa ein hunain o faterion hollbwysig eraill sy’n effeithio ar y byd i gyd. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n gryf ar newid yn yr hinsawdd a’n hymrwymiad i sero net, ond rhaid inni hefyd ailgadarnhau ein hymrwymiad i gael gwared ar blastig untro o’r campws cymaint â phosibl. Fe wnaeth y gofyniad yn ystod COVID i ddefnyddio eitemau i’w taflu mewn meysydd fel arlwyo, a masgiau wrth gwrs, bylu ein huchelgais dros dro, ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ein hatgoffa’n llwyr o frys y mater hwn. Mae llygredd trwy ficro-blastigau nano-raddfa yn fygythiad enfawr i’n hecosystemau ac i’n hiechyd, ac yn wir mae rhai yn gweld y bygythiad hwn ar raddfa debyg i newid hinsawdd. Un o’r problemau mwyaf yw bod y llygryddion mor fychan fel bod 99% ohonynt yn parhau heb eu canfod, hyd yn oed os bydd crwydro drwy ganol dinas Caerdydd neu ar hyd glannau’r Taf yn datgelu gwastraff plastig ar raddfa fwy yn rhwydd. Mae gwaith gan y cyfleuster Sbectrosgopeg Ddirgrynol Nanoraddfa newydd yn ein Canolfan Ymchwil Drosiadol yr un mor newydd ar y Campws Arloesedd, wedi arwain at y delweddau cyntaf un o lygryddion plastig nanoraddfa. Mae Dr Josh Davies-Jones o Sefydliad Catalysis Caerdydd yn egluro’r manylion yma, ond yn y bôn mae’r gronynnau bach hyn wedi’u ffurfio o ddadelfennu eitemau plastig mwy. Maent 70 gwaith yn llai na diamedr gwallt dynol ac yn anodd iawn eu hastudio am y rheswm hwnnw. Astudio nhw y mae’n rhaid i ni, fodd bynnag, oherwydd mae’r gronynnau hyn nid yn unig yn diweddu mewn bwyd ynghyd â’n cyrff ninnau a llawer  organebau o ganlyniad, ond gallan nhw amsugno llygryddion eraill sydd wedyn yn cael eu cludo i mewn i ni. Bydd gallu delweddu a dadansoddi gronynnau nano plastig yn ffordd bwysig o’n helpu i frwydro yn erbyn eu heffeithiau. Gall pob un ohonom ym Mhrifysgol Caerdydd wneud ein rhan drwy gael gwared ar blastigau untro o’r campws cymaint â phosibl, gan ei gwneud yn anos iddynt fynd i mewn i’r amgylchedd yn y lle cyntaf. Os gallwn sefydlu arferion o’r fath fel rhai safonol, efallai y bydd ganddo effeithiau crychdonni ehangach i leihau’r defnydd o blastig, a rhaid mai dyna’r nod cyffredinol.

Ar ddiwedd y mis hwn bydd yr Athro Kim Graham yn ein gadael i ddechrau ar ei rôl newydd fel Profost ym Mhrifysgol Caeredin. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Kim yn Rhag Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Menter am y tair blynedd diwethaf, ac yn arbennig i fod wedi cael budd ei hegni, ei hymrwymiad, ei sylw at fanylion a’i gweledigaeth strategol yn ystod REF 2021. Mae hi wedi gwneud gwaith rhagorol ar draws ei briff ac rwyf am ddiolch o galon am bopeth y mae wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd. Mae ei rôl newydd fel Profost yng Nghaeredin yn mynd i fod yn gyffrous ac yn gofyn llawer, ac mae Kim i’w llongyfarch yn fawr iawn am ei chael. Rwyf am ddymuno pob lwc i Kim a gwn y bydd hi’n parhau i lwyddo.

Yn olaf, bydd llawer ohonoch eisoes yn gwybod y byddaf yn ymddeol o’m swydd fel Is-Ganghellor pan fyddaf yn cwblhau fy ail dymor ar 31 Gorffennaf 2023. A finnau’n 64 oed ar ôl 16 mlynedd fel Is-Ganghellor, ac un ar ddeg ohonyn nhw yng Nghaerdydd, byddaf yn barod i gamu’n ôl o’r gad. Tan hynny, wrth gwrs, byddaf yn parhau i ymrwymo i’m rôl a chanolbwyntio arni, ynghyd ag anghenion y Brifysgol. Mae’n bwysig fy mod yn cadarnhau hyn yn awr oherwydd mae’n rhaid sefydlu pwyllgor o’r Cyngor a’r Senedd er mwyn dechrau chwilio am olynydd, sy’n broses braidd yn hir. Wrth gwrs fe ddywedaf fwy tua diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae’n fusnes fel arfer.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor