Ymfalchïo yn ein Rhyngwladoldeb
27 Hydref 2016Mae prifysgolion ledled y DU yn cefnogi ymgyrch i sicrhau bod eu myfyrwyr, staff a gweithgareddau rhyngwladol yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
Dechreuodd #WeAreInternational ym Mhrifysgol Sheffield yn 2013, ond cafodd ei lansio unwaith eto yn sgil canlyniad refferendwm yr UE, ac erbyn hyn mae mwy na 100 o brifysgolion y DU yn ei chefnogi, gan gynnwys ni, wrth gwrs. Mae’r ymgyrch am i brifysgolion gael y polisïau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i barhau i fod yn agored, cyfeillgar, cynhwysol ac amrywiol. Pwy fyddai’n anghytuno â hynny?
Mae gan y Brifysgol hon dros 7,500 o fyfyrwyr a staff rhyngwladol o 78 o wledydd, sy’n gwneud cyfraniad enfawr at y Brifysgol, y ddinas-ranbarth a’r wlad. Mae ein staff a’n cydweithwyr rhyngwladol o bedwar ban y byd yn gwneud cyfraniad allweddol at ragoriaeth ein hymchwil a’n gwaith addysgu.
Cafodd enillwyr ysgoloriaethau o 45 o wledydd eu croesawu gan staff uwch y Brifysgol mewn derbyniad yn Neuadd Aberdâr yn gynharach y mis hwn. Byddant yn dod â gwybodaeth, creadigrwydd ac arloesedd i’n Prifysgol a’r gymuned leol.
Byddwn yn tynnu sylw at rai o’r buddiannau hyn yn ystod Wythnos y Byd #WeAreInternational rhwng 24 a 30 Hydref, felly cadwch lygaid ar ein hashnod ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni am i fyfyrwyr a staff ddangos eu bod yn cefnogi’r ymgyrch drwy rannu eu gweithgareddau rhyngwladol, gan dagio @prifysgolCdydd a gan ddefnyddio’r hashnodau #weareinternational a #prifysgolCdydd.
I werthfawrogi natur ryngwladol ein myfyrwyr, gwyliwch y ffilm fer hon yr ydym yn ei defnyddio i hyrwyddo #WeAreInternational. Os ydych chi am ddysgu mwy am yr hyn y byddwn yn ei wneud yn ystod Wythnos y Byd, darllenwch y stori yma.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014