
A hithau’n brifysgol mewn dinas, mae Caerdydd yn ymgysylltu’n gryf â’r gymuned leol ac mae ganddi ymdeimlad cryf o leoliad. Rydym yn gwerthfawrogi i ba raddau mae ein lleoliad yn ffurfio ein hunaniaeth unigryw fel sefydliad. Felly, mae ein perthynas â Dinas Caerdydd yn bwysig ac yn werthfawr dros ben.
Roeddem wrth ein bodd pan ofynnwyd i ni gymryd rhan unwaith eto yng Nghonfensiwn Caerdydd 2016 a gynhaliwyd ar 13 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Digwyddiad blynyddol a drefnir gan Ddinas Caerdydd yw hwn. Mae’n dod â meddylwyr blaenllaw ym maes datblygu dinasoedd i Gaerdydd.
Mae’r ddinas wedi tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf a rhagwelir y bydd yn ehangu 26% ymhellach, un o’r ehangiadau mwyaf yn y DU. Daw hyn â heriau, gymaint yn fwy felly pan fo adnoddau’n prinhau a’r galwadau’n cynyddu. Roedd canfod ffyrdd o leddfu’r elfennau heriol sy’n gysylltiedig â thwf yn thema a godwyd dro ar ôl tro e.e. ei effaith ar les a’r amgylchedd. Mae gweledigaeth y brifddinas ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio’n benodol ar fanteision economaidd a chynaliadwyedd, ond mae hefyd yn edrych ar ffyrdd ehangach o fesur llwyddiant, fel bod yn ddinas iach, ddiogel a gwyrdd. Yn ôl Archwiliad Trefol gan yr UE, Caerdydd yw’r ddinas orau i fy ynddi yn y DU, a’i phreswylwyr oedd y chweched uchaf o ran bodlonrwydd. Mae diogelu’r ansawdd hwn yn uchelgais hollbwysig. Rhoddwyd sylw manwl i rôl addysg, sgiliau a thechnoleg wrth greu dinas y gellir byw ynddi.
Cefais fy ngwahodd i siarad mewn gweithdy a edrychodd ar sut mae dinas yn gallu manteisio ar wyddoniaeth a thechnoleg. Cyflwynwyd y sesiwn gan Gareth Harcombe. Gareth sy’n rheoli Tîm Ynni a Chynaliadwyedd y Cyngor ac ef sy’n gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy, gweithgareddau ôl-ffitio ac effeithlonrwydd ynni, a gwaith datblygu cynaliadwy ehangach. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae wedi datblygu portffolio cynyddol o brosiectau ymchwil ac arloesedd mewn cydweithrediad â sefydliadau academaidd, llywodraeth a phartneriaid masnachol. Roedd cynrychiolydd o Innovate UK yno hefyd.
Siaradais am ein cynlluniau ar gyfer y system arloesedd, ecosystem a gynlluniwyd i gysylltu pobl, lleoedd a phartneriaid, ac sy’n allweddol ar gyfer arloesedd. Rydym am i’n campws newydd fod yn ganolbwynt ar gyfer y gweithgareddau hyn yn y ddinas. Bydd yn seiliedig ar ymchwil ragorol ochr yn ochr ag arloesedd diwydiannol, clinigol ac yn sector cyhoeddus sy’n gyrru’r farchnad.
Ar ôl y cyflwyniadau, cawsom ein rhannu’n grwpiau i fyfyrio ar fanteision pwyslais cydweithredol a dinesig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd, yn ogystal ag amlygu’r rhwystrau o’n blaenau. Cytunwyd mai dim ond drwy gydweithio ar draws sawl maes y gellir dod o hyd i’r atebion gorau i rai o’r problemau cymhleth mewn dinas, a bod angen cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn creu canlyniadau mwy cydlynol a chynaliadwy.