Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gweithredu diwydiannol – boicot asesu a marcio wedi’i dynnu’n ôl

20 Mai 2022
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 20 Mai.

Annwyl fyfyriwr,

Fe anfonais ebost atoch ddydd Llun i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynlluniau Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) i fwrw ymlaen â gweithredu diwydiannol y gwanwyn hwn.

Mae pawb sy’n gysylltiedig yn awyddus i leihau unrhyw effaith y byddai streic o’r fath wedi’i chael arnoch chi, ac rwy’n falch o roi gwybod fod y boicot asesu a marcio sydd i fod i ddechrau ddydd Llun yma bellach wedi’i dynnu’n ôl.

Cewch ragor o wybodaeth gennyf yr wythnos nesaf, ond roeddwn i am rannu’r diweddariad pwysig hwn gyda chi ar unwaith.

Unwaith eto, hoffwn ddymuno pob lwc i chi yn eich arholiadau. Os ydych yn poeni am eich arholiadau ac am siarad â rhywun, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr neu dewch i’n gweld yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Gallwch gymryd seibiant o’ch astudiaethau yn ein hystafell ymlacio bwrpasol yn ystafell 2.25 tan 27 Mai.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr