Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Symptomau COVID-19, profion a chael eich brechiad cyntaf

2 Gorffennaf 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 2 Gorffennaf.

Annwyl Fyfyriwr

Trwy gydol cyfnod y pandemig, un o’r pethau rydyn ni wedi bod fwyaf diolchgar amdano yw sut rydyn ni wedi gallu gweithio gyda phartneriaid lleol i geisio cadw ein gilydd yn ddiogel.

Mae’r ebost hwn yn cynnwys cais gan Fyrddau Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg – ond mae’r canllaw hwn yn berthnasol ble bynnag rydych chi.

Mae achosion o COVID-19 wedi bod yn cynyddu’n gyson yn y rhanbarth gyda’r mwyafrif ymysg pobl ifanc rhwng 18 a 29 oed, gan gynnwys ein myfyrwyr a’r rhai sy’n cyd-letya.

Os ydych chi’n symud allan o Gaerdydd dros fisoedd yr haf, ystyriwch gael prawf cyn cymysgu â grŵp newydd o ffrindiau neu deulu. Gallwch drefnu prawf sgrinio trwy ein Gwasanaeth Sgrinio sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 08:00 – 17:30.

Gobeithio y cewch chi wyliau hapus iawn ac yn bwysicaf oll, arhoswch yn ddiogel ac yn iach.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr

Bayside_Welsh

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd a’r Fro yn gofyn i bobl 18-29 oed fod yn ymwybodol o symptomau ehangach COVID-19 a chael prawf os oes gennych unrhyw un o’r rhain.

Gan fod y grŵp oedran hwn yn llai tebygol o fod wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn yn erbyn COVID-19, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn ymwybodol o’r symptomau hyn ac yn cael prawf os ydych chi’n dangos unrhyw symptomau.

Tri phrif symptom COVID-19 yw:

  • peswch parhaus newydd
  • twymyn a/neu
  • colli synnwyr arogli neu flasu.

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau hyn mae’n rhaid i chi gael prawf a rhaid i chi a’ch aelwyd ehangach hunanynysu. Mae hyn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gall COVID-19 fod yn llai difrifol ymysg pobl iau. Gall yr amrywiad Delta yn arbennig achosi ystod ehangach o symptomau ar ddechrau’r haint. Mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn annog pobl i gael eu profi os oes ganddyn nhw ystod ehangach o symptomau, sef yr anarferol newydd. Mae’r rhain yn cynnwys blinder, myalgia (poen yn y cyhyrau), dolur gwddf, cur pen, trwyn yn rhedeg, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.

Mae yna ychydig o gamau syml y gallwch eu cymryd i helpu i gadw eich hun, eich ffrindiau a’ch teulu’n ddiogel.

  • Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf o’r brechlyn, ewch i’w gael a threfnwch ble a phryd y byddwch yn cael yr ail ddos. Mae dau ddos o’r brechlyn yn hanfodol er mwyn ein hamddiffyn rhag yr amrywiad Delta sy’n lledu’n gynt na’r amrywiadau eraill yng Nghaerdydd a’r Fro. Os ydych chi yng Nghaerdydd, mae Bayside yn cynnig brechlynnau heb apwyntiad bob dydd Sadwrn a dydd Sul, rhwng 08:00 a 16:00.
  • Os oes gennych symptomau COVID-19, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ddifrifol, ewch am brawf
  • Os byddwch chi’n profi’n bositif am COVID-19 bydd ein tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu â chi i nodi’ch cysylltiadau agos. Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi iddyn nhw, gan y bydd hynny’n golygu y gallwn reoli lledaeniad COVID-19 yn well.