Newyddion yr Is-Ganghellor

Cyfyngiadau COVID, cefnogi ein myfyrwyr, diolch i’r staff

Annwyl gydweithiwr

Rwy’n ysgrifennu fy ebost misol i’r holl staff ychydig wythnosau’n gynharach na’r arfer, ond byddaf yn ysgrifennu eto tua diwedd mis Awst yn hytrach na’i adael tan fis Medi, fel yr oeddwn yn arfer ei wneud cyn y pandemig. Gan fod y gweithgareddau academaidd arferol wedi’u heffeithio, ni fyddwn yn cael saib naturiol wythnos y seremonïau graddio unwaith eto eleni, ac mae seremonïau’n cael eu cynnal ar-lein. Byddaf yn myfyrio ar hyn i gyd y tro nesaf pan fydd y cyfan wedi’i gwblhau, ond rwy’n ymwybodol o’r holl ymdrech a’r amser a dreuliwyd yn sicrhau bod y dathliadau rhithwir yn llwyddiannus ar draws y Brifysgol.

Gyda lwc, byddwn yn gallu cynnal seremonïau graddio wyneb yn wyneb unwaith eto’r flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i garfanau blaenorol ddathlu os ydynt yn dymuno, gan olygu y bydd y digwyddiadau yn dra gwahanol i’r arfer. Bydd angen cynllunio’r rhain yn ofalus, ac mae’n bosibl y bydd cryn amser nes y byddaf yn gallu eich diweddaru ynglŷn â’r paratoadau hyn. Wrth gwrs, rydym wedi dod i arfer â chydnabod bod yn rhaid i gynlluniau newid am resymau iechyd cyhoeddus yn ystod y pandemig. Mae hyn yn aml yn digwydd ar fyr rybudd, felly byddwn yn gwneud yn siŵr bod cynllun wrth gefn gennym bob amser. Yn amlwg, mae hynny’n wir wrth gynllunio’n gyffredinol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, rydym yn disgwyl cyhoeddiad arall gan Lywodraeth Cymru ar natur cyfyngiadau covid dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Fel y soniais yn fy ebost diwethaf, bydd y Brifysgol yn mynd i allu defnyddio mwy o’n cyfleusterau yn ôl pob tebyg, ond byddwn yn cadw rhai o’r mesurau lleiaf caeth sy’n helpu i leihau lledaeniad y feirws. Ar y cyfan, mae’r ymagwedd yng Nghymru wedi bod ychydig yn fwy gofalus o gymharu â mannau eraill, ac mae hynny wedi gweithio’n dda i ni. Er na fydd prifysgolion yn Lloegr yn cael eu cyfyngu neu eu cyfarwyddo’n gyfreithiol mwyach gan y llywodraeth i fabwysiadu mesurau lleihau risg, rwy’n darogan y bydd llawer ohonynt yn cadw rhai mesurau diogelu rhag covid gan mai dyna’r peth cyfrifol i’w wneud ar hyn o bryd. Mae llawer o ansicrwydd o hyd e.e. beth fydd imiwnedd y boblogaeth erbyn yr hydref a faint fydd wedi cael y brechlyn a’i effeithiolrwydd. Hefyd, mae’n bosibl y bydd amrywiadau newydd yn datblygu a allai newid cydbwysedd y risg, a bydd rhaid ystyried effaith a difrifoldeb covid hir, y niferoedd sy’n aros am driniaeth gan y GIG, mathau eraill o salwch tymhorol yn ogystal â llu o newidynnau eraill na allwn eu darogan ar hyn o bryd. Ein nod yw dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng caniatáu i fywyd prifysgol fynd rhagddo mewn modd mor normal â phosibl, ochr yn ochr â monitro risgiau a newid lefel y rhagofalon yn ôl yr angen.

Yn y cyfamser, gallwn fyfyrio ar y lefel ragorol o gefnogaeth yr ydym wedi gallu ei rhoi i’n myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â chynnig llawer iawn mwy o gefnogaeth academaidd ac o ran lles, rydym wedi gallu cefnogi ein myfyrwyr yn ariannol hefyd, yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf. Rydym wedi gallu gwneud hyn gyda chymorth ychwanegol Llywodraeth Cymru — sydd wedi bod yn hynod gefnogol i fyfyrwyr a phrifysgolion — a’n hadnoddau ni ein hunain. Cafodd gwerth £6.3m o daliadau unwaith ac am byth eu rhoi i fyfyrwyr sydd wedi dioddef caledi o ganlyniad i gostau oedd yn ymwneud â covid. Ar ben hynny, gwariwyd dros £400,000 er mwyn sicrhau bod gliniaduron ac offer gweithio ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, a’r rhai sydd mewn caledi, i’w galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac addysgu o bell. Roedd myfyrwyr agored i niwed a myfyrwyr ag anableddau yn gymwys i gael taliadau pellach. Fe wnaeth ein Rhaglen Cymorth Ariannol — oedd ar gael yn ôl yr arfer — gyfrannu dros £1.2m o daliadau caledi, ac fe wnaethom ad-dalu bron £1.8m o rent i dros 2,000 o fyfyrwyr eleni. Roedd hyn ar ben yr £8m a ddychwelwyd neu na chafodd ei godi yn y flwyddyn flaenorol pan nad oedd modd i’r rhan fwyaf o bobl fynd i’r Brifysgol a phan nad oedd llety ar gael i fyfyrwyr oherwydd y cyfnod clo. Roedd cyflawni hyn i gyd mewn cyn lleied o amser yn dasg sylweddol ynddo’i hun, a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o holl waith Ben Lewis, Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i’w dimau hefyd, yn enwedig Amy Close, Pennaeth Cyngor ac Arian, a Christine Werrell, Pennaeth Cymorth Materion Anabledd a Mynediad a’u timau yn yr adran Cefnogi a Lles Myfyrwyr, yn ogystal â’r timau yn y Gofrestrfa a TG a chwaraeodd ran hollbwysig wrth gyflawni hyn i gyd.  Rwy’n credu y gallwn fod yn falch o’r holl ffyrdd yr ydym wedi gallu cefnogi ein myfyrwyr, yn enwedig yn ariannol. Mae hyn wedi bod yn ystod cyfnod sydd wedi cael effaith enfawr ar flynyddoedd o’u bywydau a fyddai, fel arfer, yn gerrig milltir pwysig yn eu datblygiad.

Wrth gwrs, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ymdrechion anhygoel ac anhunanol cydweithwyr ar draws y Brifysgol. Mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a phwyllgorau eraill wedi bod yn trafod yn helaeth y ffordd orau o gydnabod ymrwymiad digymar ein holl staff, beth bynnag fo’u rôl. Fe wnaethon ni benderfynu ei bod yn bwysig dros ben ailgyflwyno’r prosesau dyrchafu a’r cynlluniau perfformiad rhagorol y bu’n rhaid i ni eu hoedi, yn anffodus, pan oeddem yn wynebu sefyllfa ariannol eithriadol o anodd yn ôl pob golwg yn gynharach yn y pandemig. Mae hyn yn gwbl deg, hyd y gwelaf i, ac mae’n braf gweld y prosesau hyn yn cael eu cynnal. Fodd bynnag, mae Ms Katie Hall, Ysgrifennydd Cangen Unsain, yn haeddu clod arbennig. Fe ysgrifennodd ataf ar ddechrau’r mis hwn yn dadlau, er bod OCAS a Dathlu Rhagoriaeth yn gynlluniau i’w croesawu’n fawr, mae’r holl staff sydd wedi gweithio ar y campws (roedd Katie yn cyfeirio at staff y Preswylfeydd yn benodol) wedi mynd mwy na’r ail filltir, a hynny am gyfnod llawer hirach na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, ac y dylid gwobrwyo pob un ohonynt gan mai hynny sy’n deg. Fe wnaethom drafod hyn am gryn amser ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol a chawsom beth anhawster yn gwahaniaethu rhwng y mathau o staff a ddylai gael taliad ychwanegol o’r fath. Wrth gwrs, mae llawer o staff academaidd wedi bod ar y campws hefyd er mwyn addysgu, ac wrth weithio gartref mae llawer o bobl wedi rheoli gofal plant ac addysg gartref gyda diwrnodau hir ar zoom. Yn union yr un modd y mae’r pandemig wedi effeithio ar y byd i gyd, y gwir amdani yw ei fod wedi effeithio ar ein holl staff hefyd. Fe gawsom ein hargyhoeddi mai rhoi un taliad unwaith ac am byth i’r holl staff fyddai’r ymateb gorau, ac y byddai taliad o £250 yr un ar ddiwedd y mis hwn yn swm priodol. Cefais y cyfle i gyflwyno’r cynllun hwn yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor, ac roedd yr holl aelodau’n gefnogol. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ac nid oes amheuaeth y bydd rhagor o heriau cyn i’r pandemig bylu i’r cefndir. Dyna pam yr hoffwn orffen yr ebost hwn trwy ddiolch o galon unwaith eto i holl staff Prifysgol Caerdydd.
Cofion gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor