Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Llywodraeth Cymru yn diweddaru ac ailsefyll ac amgylchiadau esgusodol

30 Mehefin 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 30 Mehefin.

Annwyl Fyfyriwr

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ein bod yn eich cadw chi, ein staff a’r gymuned ehangach mor ddiogel â phosibl.

Gan wybod bod llawer ohonoch (yn ddealladwy) eisiau gwybod beth y gallem ei ddisgwyl yn y flwyddyn academaidd nesaf, gwnaethom rannu rhyw syniad o hyn yn gynharach yn y flwyddyn, wrth i ni aros am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru.

Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth bwysig yn esbonio pa gamau diogelwch y bydd angen eu cymryd y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn galonogol, gan gynnig yr arwydd cliriaf eto y bydd blwyddyn academaidd 2021-22 yn agosach at y profiad academaidd yr ydym i gyd yn dymuno y gallech ei gael fel myfyrwyr, wrth barhau i geisio cadw pawb yn ddiogel. Mae’n dangos i ni y byddai’n bosibl addysgu wyneb yn wyneb yn fwy ar ôl yr haf, a byddwn nawr yn gweithio’n galed i gynllunio’n unol â’r canllawiau newydd hyn. Bydd hyn yn cymryd peth amser, wrth i ni ystyried goblygiadau pob cwrs a blwyddyn astudio.

Fodd bynnag, er bod pethau’n edrych yn llawer gwell, mae’n bwysig fy mod yn crybwyll y gall y pandemig ddod â heriau newydd i ni i gyd o hyd. Dim ond pan mae’r risg yng Nghymru’n isel neu’n gymedrol y mae’r canllawiau uchod yn berthnasol. Pe bai risg COVID-19 yn cynyddu eto yng Nghymru, bydd ein tudalen profiad ar y campws yn 2021/22 yn parhau i roi trosolwg defnyddiol o’r camau diogelwch y gall fod angen i ni eu cymryd i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

Ailsefyll ac amgylchiadau esgusodol

Gan fynd yn ôl at y flwyddyn hon, os bydd yn rhaid i chi ailsefyll arholiad neu ailgyflwyno gwaith cwrs yr haf hwn, dilynwch ein gweithdrefn amgylchiadau esgusodol os bydd rhywbeth y tu hwnt i’ch rheolaeth yn effeithio arnoch a bod eich amgylchiadau’n cyd-fynd â phob elfen o’r diffiniad amgylchiadau esgusodo, sef eu bod:

  • yn ddifrifol ac yn eithriadol
  • yn annisgwyl neu’n anochel
  • yn codi’n agos at amser yr asesiad neu wedi parhau i gael effaith ar eich perfformiad academaidd yn yr asesiad (a’ch bod yn gallu dangos hynny).

Cyn i chi wneud datganiad ar SIMS, dylech ystyried eich sefyllfa a sicrhau bod eich datganiad yn wir ac yn gywir – mae datganiadau ffug yn mynd yn groes i’r hyn a ddisgwylir gan ein myfyrwyr, a gallant arwain at gymryd camau disgyblu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio cymorth os bydd ei angen arnoch, gan y cysylltiadau a nodir yn y canllawiau.

Cefnogi Myfyrwyr

Cofiwch, ble bynnag yr ydych chi, Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf am unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch chi. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy’r Porth Cyswllt Myfyrwyr neu ffonio +44 (0)29 2251 8888 ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 – 16:30. Y tu allan i’r oriau hyn gallwch ofyn eich cwestiynau i’n bot sgwrsio (chwiliwch am y swigen siarad las ar waelod tudalennau’r fewnrwyd).

Er fy mod yn ymwybodol i mi ddymuno gwyliau da i chi bythefnos yn ôl yn y neges olaf yr oeddwn yn bwriadu ei hanfon, rwy’n gobeithio y bydd y diweddariad hwn gan Lywodraeth Cymru’n golygu eich bod yn gallu mwynhau’r haf ychydig yn haws.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr