Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Mis Pride – Eich marciau – Llais Myfyrwyr – Gyrfaoedd – Cwynion – 21/22

17 Mehefin 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 17 Mehefin.

Annwyl Fyfyriwr

Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.

Diolch

Wrth i Gymru symud ymlaen gyda’i hymgyrch i ddosbarthu brechiadau COVID-19, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl fyfyrwyr sydd wedi cefnogi’r cyflawniad gwych hwn. Mae llawer o staff Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys fi fy hun) wedi cael un dos, neu’r ddau ohonynt, gan un o’n myfyrwyr clinigol, ac rwyf am gydnabod y rôl bwysig rydych chi’n ei chwarae. Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch eto am eich cefnogaeth barhaus wrth ddilyn y mesurau diogelwch sydd ar waith a’n helpu i sicrhau ein bod yn lleihau’r risgiau i gymuned ein prifysgol.

Mis Pride

Fel cyfaill Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr LHDTQ+ hoffwn ddymuno Mis Pride hapus i bawb. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu dathlu am bwy ydyn nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y tudalennau LHDTQ+ am gyfleoedd i gymdeithasu a rhwydweithiau y gallwch chi ymuno â nhw, a chefnogaeth cymheiriaid gan hyrwyddwyr myfyrwyr os oes angen.

Derbyn eich marciau a’ch adborth

Rwy’n gobeithio bod eich arholiadau a’ch asesiadau yn mynd yn dda i chi. Yn naturiol, unwaith y bydd y rhain wedi’u cwblhau, mae’n siŵr y bydd eich sylw yn troi at eich marciau a’ch adborth.

Os nad oeddech eisoes yn gwybod, mae eich cynnydd a chanlyniadau terfynol eich Dyfarniad yn cael eu cadarnhau drwy Fwrdd Arholi eich Ysgol cyn cael eu rhyddhau ar eich cyfer. Gallwch wirio’r dyddiad gyda’ch Ysgol neu drwy SIMS Ar-lein – ewch i’r tab ‘Gwybodaeth am Ryddhau Canlyniadau’ ar eich Cofnod Academaidd. Byddwch yn derbyn hysbysiad ebost pan gaiff eich canlyniadau eu rhyddhau.

Cofiwch, yn unol â’n Polisi Rhwyd Diogelwch ar gyfer 2020/21 ymlaen, os ydych chi’n fyfyriwr israddedig ar eich blwyddyn olaf, gallwch wirio’ch cymhwysedd ar gyfer y Marc Cyfartalog (B) drwy SIMS Ar-lein – ewch i’r tab ‘Gwybodaeth Ynghylch Cynnydd’ ar eich Cofnod Academaidd.

Gallwch ddarllen mwy am gael eich canlyniadau, graddau, apeliadau a thrawsgrifiadau ar y fewnrwyd.

Mae’n bwysig eich bod yn deall eich canlyniadau a’ch bod yn glir ar daith eich marc. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y broses farcio a sut y gallwch chi ddefnyddio’r adborth a gewch i wella’ch datblygiad personol ymhellach.

Yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym a’r camau nesaf

Ym mis Mai, gwnaeth dros 4,800 ohonoch chi rannu eich barn am eich profiad myfyriwr yn y Brifysgol drwy Cipolwg Caerdydd. Diolch i bob un ohonoch a gyflwynodd ymatebion.

Mae eich adborth eisoes yn cael effaith. Y mis hwn, fe wnaethom ofyn i chi am ddysgu digidol ac fe wnaethom gyflwyno eich sylwadau i aelodau o Grŵp Llywio Addysg Ddigidol y Brifysgol. Rydym wedi casglu’r ymatebion a’r camau a gymerwyd yn seiliedig ar eich sylwadau ar ein tudalen adborth ar y fewnrwyd.

Parhewch i gymryd rhan fel y gallwn gael dealltwriaeth o wahanol agweddau ar eich bywyd yma yng Nghaerdydd a sut y gallwn wneud eich profiad y gorau posibl.

Agorwyd Cipolwg Caerdydd mis Mehefin ar 14 Mehefin gyda ffocws ar anghenion cefnogaeth ar gyfer y dyfodol, a bydd yn parhau ar agor tan ddydd Llun 21 Mehefin. Mae’r ddolen ar gael trwy naidlen ar Dysgu Canolog.

Deilliannau graddedigion – Cymorth gyrfaoedd a thudalennau Graddio ar y we

I’r rhai hynny ohonoch sy’n graddio eleni, defnyddiwch ein Cefnogaeth gyrfaoedd Graddedigion ‘21. Gweler bod ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau, cefnogaeth a digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich helpu i ddeall eich opsiynau, gwireddu eich potensial a llwyddo i sicrhau swydd, astudiaeth bellach neu unrhyw gyfleoedd eraill yr hoffech fanteisio arnynt.

Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau gyda ni ac sy’n chwilio am gyfleoedd yr haf hwn neu’n dechrau cynllunio ar gyfer eich dyfodol, manteisiwch ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Os ydych yn graddio eleni, edrychaf ymlaen at eich gweld yn eich Dathliadau Rhithwir Graddedigion ‘21.

Gweithdrefn gwyno

Fel y nodwyd yn fy neges ddiwethaf atoch, mae ein proses gwynion COVID-19 sydd wedi’i diweddaru yn rhoi cyfle i chi godi unrhyw darfu penodol a achoswyd gan y pandemig.

Os ydych chi, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, pan fydd eich gweithgareddau addysgu ac asesu wedi dod i ben, yn anfodlon â’r camau a gymerwyd gennym, neu os ydych chi’n teimlo nad oedd y cyfleoedd dysgu neu’r gwasanaethau eraill yr hyn y byddech chi wedi’i ddisgwyl yn rhesymol ar sail y wybodaeth a gawsoch ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, gallwch wneud cwyn.

Unwaith eto, cofiwch:

  • Bydd y flwyddyn academaidd yn dod i ben ar 18 Mehefin 2021, ac, os ydych am wneud cwyn, rhaid i’r mwyafrif ohonoch wneud hynny erbyn 16 Gorffennaf 2021 fan bellaf (28 diwrnod yn ddiweddarach)
  • Ni fydd y dyddiad hwn yn berthnasol os bydd yr addysgu ar eich rhaglen ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymestyn y tu hwnt i 18 Mehefin 2021. Cewch chi wneud cwyn hyd at 28 diwrnod ar ôl derbyn eich trawsgrifiad.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am y broses, yn ogystal â chyngor annibynnol gan Ganolfan Gynghori Undeb y Myfyrwyr.

Dychwelyd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf

Os ydych yn dychwelyd atom y flwyddyn nesaf, cadwch lygad allan ar ein sianeli cyfathrebu yn ystod yr haf. Wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru barhau i newid, rydym yn gobeithio gallu rhannu rhagor o fanylion â chi o ran sut brofiad bydd bywyd ar y campws yn y flwyddyn academaidd newydd. Cofiwch, byddwn bob amser yn rhannu gwybodaeth o’r fath gyda chi a’n staff yn y lle cyntaf.

Yn olaf, dyma ddymuno haf hamddenol i chi gyd, yn agosach at haf ‘arferol’, a gobeithio y cewch chi gyd gyfle i fwynhau. Cadwch yn ddiogel ac yn iach.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr