Newyddion yr Is-Ganghellor

Blwyddyn academaidd newydd, Stonewall, Mary Rose

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (30 Mehefin 2021).

Annwyl gydweithiwr

Mae’r ffordd y mae argyfwng Covid yn tarfu ar ein gallu i gynllunio wedi effeithio ar bob un ohonom yn bersonol, ac mae Prifysgol Caerdydd yn union yr un cwch. Dyna pam, wrth edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf, y gwnaethom benderfynu paratoi ar gyfer tri phrif senario, gan ddefnyddio system goleuadau traffig i nodi graddau rheoli. Y senario cyntaf yw’r un sydd fwyaf tebygol yn ein barn ni o ystyried llwyddiant y rhaglen frechu yn y DU a’r ffordd bwyllog y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli Covid yng Nghymru. Yn y senario gwyrdd hwn, byddwn yn parhau i roi rhai mesurau ar waith i helpu i gyfyngu ar ledaeniad unrhyw haint posibl. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein systemau rhybuddio cynnar ar waith (trwy ein gwasanaeth sgrinio a dulliau monitro eraill) a bydd hyn yn ein galluogi i gymryd camau cyflym os oes angen. Am y tymor cyntaf o leiaf, byddwn yn argymell gwisgo masgiau yn adeiladau’r Brifysgol ac yn cadw pob elfen o’n systemau unffordd, neu rai ohonynt. Ar ben hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr bod mesurau hylendid priodol ar waith a bod awyru’n parhau i fod yn brif ystyriaeth. Fodd bynnag, yn y senario hwn byddwn yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o’n hadeiladau a’n cyfleusterau o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed os bydd rhai cyfyngiadau o hyd. Mae’r ail senario, yr un ambr, yn un lle byddem yn cadw neu’n ailgyflwyno’r protocolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yr ydym wedi dod i arfer â nhw. Bydd hyn yn caniatáu i ni fwrw ymlaen ag ychydig o addysgu ar y campws a defnyddio cyfleusterau. Mae’r trydydd yn senario coch a fyddai’n golygu mai addysgu a dysgu personol a hanfodol yn unig fyddai’n digwydd, a byddai cyfyngiadau sylweddol ar ddefnyddio ein cyfleusterau (fel yn y cyfnod ar ôl y Nadolig eleni). Rydym yn hyderus y byddwn yn gallu newid rhwng y senarios hyn yn gyflym yn ôl yr angen.

Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, rydym yn disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fydd, yn gyffredinol, yn caniatáu inni symud ymlaen ar sail y senario gwyrdd fel yr amlinellwyd uchod. Gallwn ddisgwyl ychydig mwy o hyblygrwydd na’r hyn a awgrymwyd yn wreiddiol y byddai angen i unrhyw ddosbarth gyda thros 60 o fyfyrwyr gael ei gynnal ar-lein. Byddai hynny’n cael gwared ar yr anfantais o orfod pennu trothwy ar gyfer dosbarthiadau a sefyllfaoedd lle byddai cael 59 o fyfyrwyr yn dderbyniol, ond byddai cael 61 ohonynt yn annerbyniol. O dan y canllawiau a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru, bydd mwy o opsiynau o ran amserlennu a mwy o ryddid i Ysgolion ddewis pa ddosbarthiadau y dylid eu cynnal ar y campws, a pha rai fyddai’n cael eu cyflwyno’n well ar-lein. Fe ddylen ni hefyd allu defnyddio ein mannau cymdeithasol, labordai, llyfrgelloedd a chyfleusterau tebyg eraill mewn ffordd sy’n amddiffyn iechyd a diogelwch pob defnyddiwr, ond sy’n nes at y sefyllfa yn 2019 na 2020.

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol y cafodd llythyr agored gan 16 o academyddion Prifysgol Caerdydd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn. Fe gafodd ei anfon ata i ac roedd yn awgrymu y dylai’r Brifysgol adolygu ein haelodaeth o gynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth a gynhelir gan elusen LHDTQ+ Stonewall, gan nodi bygythiadau i ryddid academaidd a rhyddid mynegiant. Fe gyhoeddwyd gwrth-lythyr wedi hynny, a anfonwyd ata i eto, a’i lofnodi gan dros 145 o staff a thros fil o fyfyrwyr, cynfyfyrwyr ac eraill yn mynegi eu gwrthwynebiad i’r llythyr gwreiddiol. Roedd hefyd yn herio nifer o’r honiadau a wnaed ynddo ac yn gofyn i ni gadw ein cysylltiad â Stonewall. Fe aethom ati wedi hynny i gyhoeddi datganiad yn ymateb i faterion a godwyd yn y ddau lythyr. Mae’r datganiad hwn i’w weld yma. Fe atebais y naill grŵp o lofnodwyr ar wahân hefyd, gan fynd i’r afael â’u pryderon penodol. Yn ystod y cyfnod hwn o drafodaeth gyhoeddus, fe gefais nifer fach o negeseuon eraill, ac rwyf wedi ymateb i bob un o’r rhain.

Ar ôl cyhoeddi’r llythyr cyntaf, fe gynhaliwyd gwrthdystiad bach y tu allan i’r Prif Adeilad. Yn ystod y gwrthdystiad, fe ddosbarthwyd deunydd (a’i gylchredeg yn ddiweddarach ar gyfryngau cymdeithasol) a fyddai’n torri ein canllawiau ynghylch urddas a pharch. Fe gafodd ei gyfeirio y deunydd at yr heddlu er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon dealladwy a fynegwyd gan lofnodwyr y llythyr gwreiddiol. Nid aelodau’r Brifysgol sy’n gyfrifol am y cynnwys hwn yn ôl pob golwg, ond rhaid imi bwysleisio bod ymddygiad o’r fath yn gwbl annerbyniol ac na chaiff ei oddef yn ein cymuned. Yn yr un modd, rhaid amddiffyn hawliau ac anghenion ein cymuned LHDTQ +, ac rwy’n arbennig o awyddus ein bod yn cefnogi ac yn amddiffyn yr aelodau o’n cymuned sy’n staff a myfyrwyr traws. Rwy’n hynod ymwybodol o’r rhagfarn a’r cam-drin y mae pobl traws yn eu hwynebu o ddydd i ddydd ac rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael eu cefnogi yma. Yn amlwg, nid yw hyn yn golygu peidio â chefnogi hawliau grwpiau eraill hefyd, a rhaid i ni wrando ar bryderon pawb a mynd i’r afael â nhw yn y ffordd orau y gallwn fel cymuned.

Rwy’n nodi bod llofnodwyr y llythyr gwreiddiol yn cadarnhau ar y dechrau eu hymrwymiad i hawliau traws, ac maent yn pwysleisio bod eu gwrthwynebiad yn ymwneud â Stonewall a’i bolisïau sydd, yn eu barn nhw, yn effeithio ar ryddid academaidd a rhyddid mynegiant. Ar y mater hwn, rwy’n pwysleisio bod rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant yn gwbl ganolog i’n gwerthoedd, a bod gan bob aelod o’r Brifysgol rwydd hynt i fynegi eu barn o fewn y gyfraith. Yn anochel, mae hyn yn golygu y bydd anghytuno ar adegau, a’n dyletswydd ni fel sefydliad yw hwyluso trafodaeth gwrtais a chynhwysfawr rhwng gwahanol grwpiau. O ran Stonewall, mae’r farn ar eu polisïau yn amrywio’n fawr a gellir trafod y rhain dros gyfnod yr haf. Fodd bynnag, hoffwn nodi rôl bwysig Stonewall dros nifer o flynyddoedd wrth ein helpu i ddatblygu ein polisïau a’n harferion mewn modd sydd wedi creu’r gymuned gefnogol ac amrywiol yr ydym yn ei gwerthfawrogi cymaint.

Gan symud ymlaen at faterion llai dadleuol, fe wnes i wylio fideo newyddion byr gan y BBC yn ddiweddar, o’r enw Uncovering the Mary Rose’s ethnically diverse crew. Roedd yn trafod ymchwil gan Dr Richard Madgwick a Ms Jessica Scorrer o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, sydd wedi gweithio ar weddillion dynol a adferwyd o’r Mary Rose, un o’r llongau mwyaf yn llynges Harri VIII. Mae’r adroddiad mwy cynhwysfawr a welwyd y mis diwethaf yn rhoi mwy o fanylion ac yn cyfeirio at yr erthygl academaidd y mae’r adroddiadau’n seiliedig arni. Mae’r gwaith o ddiddordeb rhannol bersonol i mi gan fy mod wastad wedi cael fy nghyfareddu gan y cyfoeth o wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn sgîl codi’r llong ym 1982. Pan oeddwn yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Portsmouth yn y 1990au, fe wnes i fanteisio ar bob cyfle i ymweld â’r safle lle’r oedd y llong yn cael ei chadw (ac i weld HMS Victory hefyd). Mae adnoddau archaeolegol y Mary Rose yn parhau i gynnig canfyddiadau hynod ddiddorol. Mae’r penawdau o ymchwil Richard a Jessica yn nodi bod dadansoddiad isotop o esgyrn wyth o aelodau’r criw yn dangos bod pedwar ohonynt yn dod o du allan i’r DU yn ôl pob tebyg, ac y gallen nhw fod wedi dod o Ogledd Affrica a gorllewin Môr y Canoldir. (Mae gweddillion 179 o unigolion wedi’u hadfer a thybir bod dros 400 o bobl ar y llong i gyd). Mae hyn yn awgrymu y gallai llynges y Tuduriaid fod yn llawer mwy amrywiol nag a dybiwyd yn flaenorol. Mae hefyd yn dystiolaeth wyddonol sy’n rhoi gwybodaeth newydd hanfodol i’r cofnod hanesyddol. O ganlyniad i waith yr hanesydd David Olusoga – yn enwedig yn ei lyfr Black and British – ac eraill, rydym bellach yn ymwybodol o agwedd gyfan ar ein hanes oedd wedi cael ychydig iawn o sylw yn flaenorol, os o gwbl. Mae hefyd yn rhoi mwy o dystiolaeth o rôl cymunedau amrywiol mewn digwyddiadau allweddol a bywyd beunyddiol trwy gydol ein hanes fel cenedl.
Cofion gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor