Y diweddaraf am Gyfarfodau

Tirwedd wleidyddol, ymgysylltu ag Ysgolion a chydnabyddiaeth Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (28 Mai 2021).

Annwyl gydweithiwr

Bu mis Mai’n fis nodedig o ran digwyddiadau gwleidyddol ar draws y Deyrnas Unedig, gydag etholiadau i Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac awdurdodau lleol yn Lloegr, yn ogystal â’r isetholiad yn Hartlepool. Yn ogystal, cynhaliwyd Araith y Frenhines, gan nodi sesiwn newydd Senedd y DU ac amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol llywodraeth y DU.

Mae canlyniad Senedd Cymru a phenderfyniadau’r Prif Weinidog wrth iddo ffurfio ei lywodraeth newydd o ddiddordeb arbennig i ni wrth gwrs, fel y mae rhywfaint o’r ddeddfwriaeth yn Araith y Frenhines sy’n ymwneud â phrifysgolion ac ymchwil. Heb os, roedd dychwelyd llywodraeth Lafur yng Nghymru yn fuddugoliaeth i Mark Drakeford, ac o’n safbwynt ni, roedd yn cynnig lefel o sicrwydd ar unwaith dros yr hyn y gallwn ei ddisgwyl yn fras dros y pum mlynedd nesaf. Mae ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru ar brifysgolion yn cynnwys deddfwriaeth i greu corff cyllido a rheoleiddio newydd i gwmpasu’r holl addysg ôl-orfodol, a chreu ysgol meddygaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor yn y gogledd. Fy marn i yw ein bod ni yn y sector Cymreig yn ffodus mai’r Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg newydd yw Jeremy Miles, sy’n olynydd teilwng iawn i Kirsty Williams, a fu’n weinidog rhagorol. Llwyddodd Jeremy i reoli briff Brexit a’i rôl flaenorol fel Cwnsler Cyffredinol yn fedrus, a does dim amheuaeth y bydd yn gallu ymdopi â chymhlethdodau’r Mesur Addysg Drydyddol ac Ymchwil a materion eraill yn y briff Addysg. Mae’n beth da mai’r Gweinidog Addysg hefyd yw’r gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, sy’n ganolog i Brifysgol Caerdydd ac efallai mai dyma nodwedd bwysicaf ein hunaniaeth unigryw fel yr unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru.

Mae ymchwil ac arloesi yn hanfodol i Brifysgol Caerdydd wrth gwrs, ac er nad ydyn nhw’n faterion datganoledig does dim byd yn atal llywodraeth Cymru rhag ymwneud â nhw. Yn y llywodraeth newydd bydd ymchwil a datblygu (gan gynnwys y gwyddorau bywyd) o fewn cylch gwaith Gweinidog newydd yr Economi, Vaughan Gething, ynghyd â datblygu rhanbarthol a’r Gronfa Ffyniant Cyffredin. Y gronfa hon yw’r hyn sy’n cymryd lle cyllid datblygu rhanbarthol Ewropeaidd yn y DU, sydd wedi bod yn ffynhonnell sylweddol o arian cyhoeddus i Brifysgol Caerdydd (trwy Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru) ers blynyddoedd lawer. Y gwahaniaeth mawr yw y bydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu’n uniongyrchol i Gymru gan lywodraeth y DU yn hytrach na’i ddatganoli i lywodraeth Cymru o Frwsel, fel oedd yn digwydd o’r blaen. Felly bydd ymgysylltu â’r weinyddiaeth economeg (yn ogystal â lobïo llywodraeth San Steffan) yn bwysig, er y bydd cyllid QR – y cyllid ymchwil sy’n seiliedig ar berfformiad REF, tua £40m y flwyddyn i Gaerdydd ar hyn o bryd – yn aros gyda’r weinyddiaeth Addysg. Yn amlwg, bydd yn bwysig i’r ddwy weinyddiaeth weithio gyda’i gilydd wrth i’r Mesur Addysg Drydyddol ac Ymchwil wneud ei ffordd trwy’r Senedd, a bydd angen i ni ystyried y rhyngweithio hwn wrth i ni roi ein barn ar y broses.  Mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod Eluned Morgan wedi cymryd lle Vaughan Gething yn swydd uchel ei phroffil y Gweinidog Iechyd, ac unwaith eto bydd angen i ni ymwneud â materion sy’n gysylltiedig ag Ysgol Meddygaeth newydd Gogledd Cymru a’n diddordebau niferus ym maes iechyd yn fwy cyffredinol, gan gynnwys ymchwil iechyd a gofal, fydd yn aros dan gyfrifoldeb Iechyd.

Mae Araith y Frenhines yn cynnwys nifer o Filiau fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar brifysgolion yn Lloegr, gyda rhai ohonynt yn effeithio’n anuniongyrchol ar Gymru. Yr amlycaf yn eu plith yw’r Mesur Rhyddid i Lefaru, sydd wedi cael sylw helaeth yn y cyfryngau ac sy’n rhoi mwy o bwerau i’r Swyddfa Myfyrwyr ond hefyd hawl ymateb cyfreithiol i unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi cael eu hatal rhag siarad gan Undeb Myfyrwyr, sydd wrth gwrs yn elusennau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Myfyrwyr (y Comisiwn Elusennau sy’n gyfrifol amdanyn nhw, fel y mae am brifysgolion Cymru fel ein un ni). Dim ond i brifysgolion ac Undebau Myfyrwyr yn Lloegr y bydd y darpariaethau’n berthnasol, ond bydd y bil arall sy’n ganolog i brifysgolion yn berthnasol ledled y DU. Mae Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar yn creu asiantaeth wedi’i neilltuo’n benodol i ‘ymchwil uchelgeisiol’ i ariannu prosiectau sy’n ceisio atebion i heriau mawr neu agweddau arnynt, ac yn benodol yn  caniatáu cynnal ymchwil gyflym, fentrus, dechrau-i’r-diwedd. Syniad cyn gynghorydd y Prif Weinidog, Dominic Cummings, yw hyn, ac wrth i mi ysgrifennu, mae yntau’n ymosod ar y llywodraeth y bu’n chwarae rhan mor flaenllaw ynddi, ac yn wir ar adegau yn ymosod arno ef hun. Amser a ddengys beth fydd hynt yr asiantaeth heb ei gefnogaeth yntau o fewn y llywodraeth, ond mae’r ffaith ei bod yn rhan o’r rhaglen ddeddfwriaethol ar hyn o bryd yn dangos ei bod yn flaenoriaeth uchel yn y maniffesto, a dylai gynnig cyfleoedd i ni ac i brifysgolion eraill. Yn anffodus, yn gefndir i sefydlu’r asiantaeth newydd hon mae cwymp difrifol yn y gefnogaeth i ymchwil ryngwladol, yn codi o’r toriadau i’r cyllid Cymorth Datblygu Swyddogol, sydd eisoes wedi cael dros £1m o effaith ar Brifysgol Caerdydd. Ceir darnau eraill o ddeddfwriaeth sydd o ddiddordeb i brifysgolion, ond efallai mai’r mater pwysicaf yw ei bod yn debygol y caiff argymhelliad Augur ynghylch ffioedd prifysgolion ei atgyfodi, a’r posibilrwydd cryf, er mwyn dargyfeirio cyllid i addysg alwedigaethol fel rhan o’r Mesur Sgiliau ac Addysg Ôl-16 arfaethedig, y gallai ffioedd dysgu israddedigion cartref yn Lloegr gael eu capio ar £7,500. Byddai hyn yn amlwg yn cael effaith sylweddol iawn ar y model cyllido yng Nghymru a diau y bydd yn fater y byddwn am ei drafod gyda’r llywodraeth yma.

Atgoffodd myfyrdodau syfrdanol Dominic Cummings ar y modd y bu’r llywodraeth yn ymdrin ag argyfwng Covid fi o achlysur llawer mwy cadarnhaol pan ymwelais â’r Ysgol Hanes Archeoleg a Chrefydd y mis diwethaf, lle clywais fod Dr Mansur Ali, sy’n aelod o’r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, wedi bod yn gweithio gyda Meddygon Mwslimaidd CymruCymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain (BIMA) a Chyngor Mwslimaidd Cymru (MCW), yn arwain ymyriadau cymunedol ynghylch brechlyn Covid-19 i roi sicrwydd i bobl a’u gwneud yn llai petrus. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod cryn dipyn o gamwybodaeth wedi’i lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddulliau eraill, a chafwyd tystiolaeth glir o betruster cynyddol mewn cymunedau BAME, a dyw’r diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth yn sgil rhai o’r materion sydd wedi eu trafod yn gyhoeddus yn ddiweddar ddim wedi helpu. Mae Dr Ali wedi chwarae rhan allweddol ac arweiniol i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at ddehongli brechlynnau yn nhermau cyfraith Islamaidd mewn dogfen ddiddorol o’r enw ‘Top Ten Questions Imams & Scholars Get Asked About Vaccines‘ a gyhoeddwyd gan Fwrdd Ysgolheigion ac Imamau Prydain (BBSI). Mae’r ddogfen yn enghraifft eithriadol o sut i gyfathrebu materion moesegol, cyfreithiol a gwyddonol cymhleth mewn ffordd sy’n hygyrch i ddarllenwyr, ac roedd yn drawiadol clywed am ffordd arall eto rydym ni ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfrannu mor sylweddol at adferiad Covid, a bod ein cyfraniad mor aml-ddimensiwn.

Y mis hwn hefyd ymwelais yn rhithwir â’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, lle clywais gyflwyniad hynod ddiddorol gan Dr Panos Paris ar asesu fideo digidol, oedd yn dangos sut mae’r pandemig wedi sbarduno arloesedd mewn addysgu a dysgu fel y mae wedi gwneud mewn llawer o ffyrdd eraill. Roedd gwylio clipiau o fyfyrwyr yn ymgymryd â’r asesiadau yn addysgiadol iawn a byddwn yn argymell cysylltu â Dr Paris os ydych chi’n ystyried cynnal y math hwn o asesiad yn eich addysgu eich hun, neu’n dymuno cymharu nodiadau. Ymhlith y nifer fawr o fentrau diddorol y clywais amdanynt oedd cyflwyno hyrwyddwyr digidol o blith y myfyrwyr sy’n helpu i gyd-greu adnoddau fydd yn diwallu anghenion myfyrwyr. Ar ymweliad rhithwir ag Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd bûm mewn gweminar staff a chlywed am ganlyniadau calonogol iawn i waith yr Ysgol yn ad-drefnu’r cwricwlwm yn llwyr fel rhan o Trawsnewid Caerdydd. Yn ystod ymweliad wyneb yn wyneb â’r Ysgol Peirianneg clywais adroddiad ar gynnydd diwygiadau gwirioneddol gyffrous ac uchelgeisiol i gwricwlwm y flwyddyn gyntaf, sy’n cwtogi 27 modiwl i dri, ac yn cyflwyno dysgu ar sail problemau/prosiectau mewn ffordd a wnaeth i mi deimlo yr hoffwn ymgeisio am le fy hun.

Er ei bod yn braf gweld y mentrau rhagorol sy’n cael eu cynnal ar draws y Brifysgol, ac ymrwymiad ac ymroddiad enfawr ein staff, rwy’n ymwybodol fod hon wedi bod yn flwyddyn academaidd anodd iawn a dyw hi ddim ar ben eto. Mae’n mynd i fod yn bwysig iawn i bawb wneud eu gorau glas i fanteisio ar eu gwyliau blynyddol a chael seibiant priodol cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Byddwn yn annog pob rheolwr llinell i fod yn rhagweithiol a gwneud yn siŵr fod pawb yn gwneud hyn, yn ogystal â threfnu gweithgareddau mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn digwydd.

Yn olaf, flwyddyn neu ddwy yn ôl cynhaliom ni ddigwyddiad cyn-fyfyrwyr i raddedigion y Gyfraith yn Llundain, lle cafwyd cyflwyniadau derbyniol iawn gan fyfyrwyr a staff rhagorol y Prosiect Dieuogrwydd, a sgyrsiau gyda chyn-fyfyrwyr oedd â diddordeb mawr, ac a fu’n ddigon hael i gynnal y digwyddiad a gwneud cyflwyniadau yn eu tro. Bryd hynny dysgais i pa mor llwyddiannus yw’r Prosiect Dieuogrwydd wrth gyflawni ei nodau o gynnal gwaith achos, ymchwil ac eiriolaeth pro bono ar gamweinyddu cyfiawnder. Mae ein myfyrwyr yn cynnal ymchwiliadau ac yn mynd ag achosion addas yr holl ffordd trwy’r broses gyfreithiol briodol. Mae tri ar ddeg o arweinwyr tîm myfyrwyr, sy’n arwain ar dri ar ddeg o wahanol achosion o euogfarnau troseddol difrifol, lle mae eu cleientiaid yn mynnu eu bod yn ddieuog. Mae’r troseddau’n amrywio o lofruddio i ymosod rhywiol difrifol. Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd yw’r unig Brosiect Dieuogrwydd mewn prifysgol yn y DU sydd wedi helpu i wrthdroi achosion yn y Llys Apêl. Dan oruchwyliaeth ein staff rhagorol, cafodd llwyddiant ein myfyrwyr i wrthdroi dau euogfarn anghywir ynghyd â chynnal ymchwil ac eiriol dros newid ei gydnabod yn gynharach y mis hwn yn y Gwobrau Pro Bono i Fyfyrwyr 2021, gan ennill y categori Cyfraniad Gorau gan Dîm o Fyfyrwyr. Mae hon yn gydnabyddiaeth bwysig iawn ar lefel genedlaethol y DU, a chyflwynwyd y wobr gan y Twrnai Cyffredinol, y Gwir Anrhydeddus Michael Ellis AS QC. Derbyniodd ein myfyrwyr rhagorol, Abdallah Barakat a Charlotte Reeves, y wobr ar ran y tîm o 95 o fyfyrwyr, a arweinir yn frwd gan Dr Dennis Eady a Dr Holly Greenwood. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd ran.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor