Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Pasg a thu hwnt

17 Mawrth 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd ar y 17 Mawrth.

Annwyl Fyfyriwr

Mae fy ebost heddiw yn gyfle imi roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y bwriad hir-ddisgwyliedig i groesawu ein holl fyfyrwyr yn ôl i astudio ar ôl y Pasg. Byddaf hefyd yn rhannu ein cyngor teithio dros y Pasg a sut i gael gafael ar gefnogaeth i fyfyrwyr.

Pob myfyriwr i ddychwelyd ar ôl y Pasg

Efallai eich bod yn ymwybodol bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi rhoi diweddariad  ar Ddydd Llun ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ar ôl gwyliau’r Pasg, a pha mor ddiolchgar yr oedd hi i fyfyrwyr yng Nghymru am gefnogi’r mesurau diogelwch.
  • Addysgu ar ôl y Pasg: gall y myfyrwyr hynny sydd heb ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb ddisgwyl dychwelyd i ddysgu cyfunol o 12 Ebrill (mae semester y gwanwyn yn ailddechrau ddydd Llun 19 Ebrill). Bydd eich Ysgol mewn cysylltiad erbyn diwedd yr wythnos nesaf
    i roi diweddariad ar beth mae hyn yn ei olygu i chi o ran eich cwrs / blwyddyn astudio. Rydym yn gwybod bod llawer ohonoch eisoes wedi dychwelyd i Gaerdydd i ddefnyddio’r cyfleusterau ar y campws (e.e. llyfrgelloedd, lleoedd astudio).
  • Teithio yn ôl i Gaerdydd yn ddiogel: Os ydych chi’n dychwelyd i Gaerdydd, mae’n bwysig iawn o hyd eich bod chi’n trefnu prawf sgrinio ar gyfer yr adeg y byddwch yn dychwelyd. Mae hefyd yn bwysig teithio’n ddiogel a chadw proffil isel lle bo’n bosibl (mae hyn yn cynnwys parhau i beidio â mynd i gartrefi eich gilydd, cwrdd â chyn lleied o bobl â phosibl, cadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo yn rheolaidd).
  • Cadw’n ddiogel yng Nghaerdydd: daliwch ati i ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio yn wythnosol os nad oes gennych symptomau COVID-19. Yng Nghaerdydd (a Bro Morgannwg) mae symptomau COVID-19 erbyn hyn yn cynnwys symptomau cyffredin (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, a/neu golli neu newid ymdeimlad o arogl neu flas ) a symptomau eraill (blinder, myalgia (poen yn y cyhyrau), llwnc tost, pen tost, tisian, trwyn yn rhedeg, colli chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd). Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau hyn dylech hunanynysu a threfnu prawf COVID-19 y GIG. Fodd bynnag, nid oes angen i’r rhai rydych chi’n byw gyda nhw hunanynysu hefyd os nad oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau cyffredin.
  • Polisi astudio o bell: Er bod y rhaglen frechu a’r gostyngiad yn nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru yn cynnig gobaith, rydym yn gwybod y gallai rhai ohonoch wynebu anawsterau o hyd wrth geisio ymuno â ni (neu ail-ymuno) ar ôl y Pasg oherwydd y pandemig parhaus. Felly, rydym am i’r myfyrwyr hynny sydd am barhau i astudio o bell gael y cyfle i wneud hynny.

Teithio dros y Pasg

  • Os ydych chi wedi dychwelyd i’r cyfeiriad lle’r ydych chi’n byw yn ystod y tymor, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi aros gartref yn ystod y tymor dros wyliau’r Pasg. Rydym yn aros am fwy o wybodaeth am hyn..
  • Yr hyn sydd wedi’i gadarnhau yw bod cael addysg yn parhau i fod yn rheswm ‘hanfodol’ dros deithio. Felly, os nad ydych wedi dychwelyd i Gaerdydd eto, gallwch deithio cyn semester y Gwanwyn ac ailddechrau ddydd Llun 19 Ebrill.

Cronfa Gymorth COVID-19 i Fyfyrwyr

Yn fy neges ddiwethaf i chi, eglurais y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael ichi erbyn hyn trwy ein pecyn cymorth i fyfyrwyr. Caeodd ceisiadau am ad-daliadau rhent i’r rhai sy’n aros yn ein llety, ddydd Sul 14 Mawrth. Fodd bynnag, gallwch nawr wneud cais trwy SIMS ar gyfer rhan bwysig arall o’r pecyn hwn – Cronfa Gymorth COVID-19 i Fyfyrwyr. Darllenwch y canllawiau cyn cyflwyno cais, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â covid19supportfund@caerdydd.ac.uk.

Cipolwg Caerdydd – Eich Adborth yn Llywio’ch Prifysgol

Fel y gwyddoch, mae’r cyfnod o newid a achoswyd gan COVID-19 wedi effeithio arnom mewn sawl ffordd, gan gynnwys bywyd Prifysgol. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad o’r radd flaenaf a’ch bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi yn yr amgylchedd dysgu newydd hwn, rydym yn lansio Cipolwg Caerdydd.

Mae Cipolwg Caerdydd yn wahoddiad misol i chi ddweud wrthym sut mae pethau’n mynd, a beth allwn ni ei wneud i’ch cefnogi chi’n well. Byddwn yn gofyn ichi roi rhywfaint o adborth rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, a bydd y ddolen ar gyfer yr arolwg yn cael ei anfon atoch i’ch cyfeiriad ebost Prifysgol. Anfonwyd yr un gyntaf ddydd Mawrth 16 Mawrth.

Yn olaf, er fy mod wrth fy modd ein bod yn gallu cynnig darpariaeth gyfunol i’n holl fyfyrwyr unwaith eto, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar bawb. Felly, mae’n bleser gennyf rannu newyddion am y cwrs Gwyddoniaeth Hapusrwydd rydyn ni’n ei dreialu i’ch helpu chi i wella’ch lles meddyliol. Wrth i ni barhau i fyw trwy’r pandemig, rydym am i chi wybod ein bod yn meddwl amdanoch ac yn eich annog i fanteisio ar y cyfle newydd.

Ysgrifennaf atoch eto ar ôl gwyliau’r Pasg.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr