Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad ar y Nadolig a’r polisi astudio o bell

30 Tachwedd 2020
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 30 Tachwedd ynghylch y diweddariad ar y Nadolig a’r polisi astudio o bell.

Annwyl Fyfyriwr,

Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom rannu gwybodaeth bwysig i’ch helpu i gynllunio ar gyfer cyfnod y Nadolig, p’un a ydych yn bwriadu gadael Caerdydd neu aros yma.

Mynd neu aros?

Os ydych yn bwriadu gadael Caerdydd cyn 7 Rhagfyr, dylech fod eisoes yn ymwybodol o’r camau rydym wedi’u rhoi ar waith i helpu – gan gynnwys yr opsiwn i drefnu prawf sgrinio. Os ydych yn bwriadu defnyddio’r gwasanaeth cyn teithio, darllenwch y canllawiau a threfnwch brawf cyn gynted â phosibl gan fod apwyniadau’n brin. 

Os ydych yn aros yng Nghaerdydd, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth drwy gydol mis Rhagfyr am ddigwyddiadau, gwasanaethau cefnogi, amseroedd agor a phrif gysylltiadau ar ein tudalennau newydd ‘Aros yng Nghaerdydd’ ar y fewnrwyd. Yn anffodus, gwyddwn y bydd angen i rai ohonoch aros yng Nghaerdydd am eich bod yn sâl a/neu’n gorfod hunanynysu. Os felly, edrychwch ar ôl eich hun, rhowch wybod i ni drwy SIMS, dilynwch ein canllawiau a manteisiwch ar y gefnogaeth sydd ar gael ar eich cyfer.  

Gwyddwn hefyd y gallai fod mwy o fyfyrwyr rhyngwladol yn aros yng Nghaerdydd, naill ai oherwydd cyfyngiadau ar deithio neu newidiadau mewnfudo y mae disgwyl iddynt ddod i rym ym mis Ionawr oherwydd Brexit. Gyda lwc, byddwch yn gallu gwneud y mwyaf o’r egwyl i’ch astudiaethau ac, os ydych yn iach, ewch ati i gymryd rhan yn ein digwyddiadau a manteisio ar y cyfle i ddod i adnabod Caerdydd (a Chymru, os bydd canllawiau’r llywodraeth yn caniatáu hynny).


Polisi Astudio o Bell

Er bod y straeon diweddar ar y newyddion am frechlynnau posibl ar gyfer covid-19 yn cynnig llygedyn o obaith, gwyddwn y bydd rhai ohonoch yn cael trafferthion o hyd wrth ymuno (neu ailymuno) â ni ym mis Ionawr oherwydd y pandemig parhaus.

Felly, rydym am i’r myfyrwyr hynny sydd am barhau i astudio o bell gael y cyfle i wneud hynny. Fel o’r blaen, gall unrhyw fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir wneud cais i astudio o bell os ydynt:

  • yn gwarchod eu hunain neu mewn grŵp agored i niwed
  • yn byw gyda rhywun (neu’n gofalu am rywun) sy’n gwarchod ei hun
  • yn methu â theithio i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfyngiadau/problemau teithio
  • mewn cwarantîn mewn llety yn y DU
  • yn pryderu am gymryd rhan yn y ddarpariaeth ar y campws.

Bydd angen i fyfyrwyr a astudiodd o bell yn ystod y semester cyntaf gyflwyno cais newydd i astudio fel hyn eto yn ystod yr ail semester. Ar ben hynny, gall myfyrwyr ar raglenni cymwys nad ydynt wedi astudio o bell o’r blaen wneud cais hefyd.

Fodd bynnag, nid yw’r ceisiadau hyn yn cael eu derbyn yn awtomatig. Maent yn dibynnu ar eich rhaglen a’ch blwyddyn astudio (oherwydd y dull addysgu, cynnwys y cwrs, neu achrediad cysylltiedig). Ni fydd rhai rhaglenni yr oedd modd eu hastudio o bell yn semester un o reidrwydd yn gallu cynnig yr un cyfle yn semester dau. Os oes blwyddyn dramor neu leoliad gwaith yn rhan o’ch rhaglen, dylech gysylltu â’ch Ysgol oherwydd ni fyddwch yn gallu dewis gwneud y rhain o bell yn ôl pob tebyg.

Gallai parhau i astudio o bell, neu ddechrau gwneud hynny, beri goblygiadau o ran y gydnabyddiaeth a roddir i’ch gradd mewn rhai gwledydd neu (lle bo’n briodol) o ran cael fisa ar ôl gorffen astudio.

Byddwch yn gallu gwneud cais i astudio o bell drwy SIMS ar-lein o’r wythnos sy’n dechrau ar 7 Rhagfyr, a chewch y wybodaeth ddiweddar gennym yn Newyddion Myfyrwyr yr wythnos nesaf..

Cadw mewn cysylltiad

Daliwch ati i ddarllen Newyddion Myfyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar draws y Brifysgol, gan gynnwys trefniadau Arholiadau ac Asesiadau a’r gefnogaeth ar eu cyfer. Byddem yn ddiolchgar hefyd pe gallwch wneud yn siŵr bod eich manylion cysylltu ar SIMS wedi’u diweddaru rhag ofyn y bydd angen i ni gysylltu â chi’n uniongyrchol. 

Yn edrych ymlaen at fis Ionawr, rydym yn deall yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru bydd eich cwrs yn dechrau nôl fel y cynlluniwyd, gyda’r gwasanaeth sgrinio ar gael i chi eto pan fyddwch yn dychwelyd i Gaerdydd.

Yn olaf, wrth i ni agosáu at yr wythnosau olaf o addysgu yn 2020, hoffwn ddiolch i chi am fod yn amyneddgar wrth i ni baratoi ein cynlluniau a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Nadolig. Diolch i chi hefyd am barhau i fynd ati mewn modd cadarnhaol i fanteisio ar y dull dysgu cyfunol a ddarperir gan dimau eich rhaglenni.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr