Paratoadau ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig
30 Tachwedd 2020
Darllenwch neges gan yr Is-Ganghellor a anfonwyd at y staff heddiw (30 Tachwedd 2020).
Annwyl gydweithiwr,
Bu mis Tachwedd yn fis digon helbulus. Treuliwyd naw diwrnod cyntaf y mis yn rhan olaf y cyfnod atal byr yng Nghymru, ac mae’n amlwg i hwn gael yr effaith a fwriadwyd sef lleihau’r gyfradd heintio ar draws y wlad. Cwympodd y cyfartaledd saith diwrnod o heintiau newydd dyddiol yng Nghaerdydd i o ddeutu 150 ar un pwynt, sydd yn dal i fod ymhell o isafbwynt yr haf oedd o dan 20, ond llawer yn well na’r 350 a ysgogodd y cyfyngiadau lleol yn ôl ym mis Medi. Yn anffodus, ers hynny mae’r gyfradd wedi dechrau dringo unwaith eto, er y gwyddwn nad yw hynny’n wir ymhlith ein myfyrwyr ni. Rydym ni’n parhau i reoli’r gyfradd heintio’n llwyddiannus, gyda’r cyfartaledd wythnosol o brofion positif y GIG mewn ffigurau sengl ers rhai dyddiau bellach, a chyfradd bositif ein gwasanaeth sgrinio mewnol ar 1% neu lai wrth i mi ysgrifennu hwn.
Rydym ni wedi gweithio’n eithriadol o galed i ddiogelu iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff a chaniatáu ar yr un pryd i gymaint ag sy’n bosibl o’r profiad campws barhau, gyda’r cyfraddau heintio isel iawn yng nghymuned y brifysgol yn dyst i lwyddiant ein gwaith. Yn ogystal â’r mesurau y byddwch chi’n gyfarwydd â nhw eisoes, dros y dyddiau diwethaf rydym ni wedi cynyddu’r mesurau diogelwch i warchod ein myfyrwyr drwy sicrhau na chaiff pobl nad ydyn nhw’n fyfyrwyr Caerdydd fynediad heb awdurdod i’n preswylfeydd, ac wedi cydweithio’n agos â Chyngor Dinas Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru i sicrhau bod unrhyw achosion o dorri rheoliadau coronafeirws (COVID-19) yn cael eu trin yn briodol.
Yng ngoleuni hyn oll, rydym ni nawr yn gwneud paratoadau helaeth i’n myfyrwyr ddychwelyd adref dros y Nadolig. Cynigir prawf poer i’r holl fyfyrwyr sy’n dychwelyd adref drwy ein gwasanaeth sgrinio, a bydd hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn iddyn nhw wrth fynd ati i wneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd eu hunain a’u hanwyliaid. Mae miloedd wedi trefnu slot i gael prawf yn barod, ac rydym ni’n hyderus y bydd yn gymorth sylweddol i liniaru’r risgiau ymhlyg mewn teithio rhwng aelwydydd dros gyfnod y gwyliau. Ar yr un pryd rydym yn ymwybodol y bydd llawer o’n myfyrwyr yn aros yng Nghaerdydd dros y cyfnod hwn, yn cynnwys nifer yn ein preswylfeydd ni. Rydym ni’n trefnu gwasanaethau cymorth a digwyddiadau hwyliog i’r myfyrwyr hyn fydd yn helpu i liniaru rhai o effeithiau anffodus ond hanfodol cyfyngiadau’r coronafeirws (COVID-19) ar ryngweithio cymdeithasol.
Yn olaf ar y pwnc hwn, unwaith eto hoffwn ddiolch o galon ar ran y brifysgol gyfan i’r holl gydweithwyr sy’n rhyngweithio’n bersonol gyda’n myfyrwyr. Er bod y mwyafrif llethol o’n myfyrwyr wedi bod yn dilyn y cyngor, gan hunanynysu pan fo angen a dilyn y canllawiau’n synhwyrol, byddai’n naïf disgwyl cydymffurfiaeth o 100% drwy’r amser. Yn y cyd-destun hwn mae ein swyddogion patrôl diogelwch wedi bod yn rhagorol yn delio gyda rhai sefyllfaoedd anodd hwyr y nos yn ein preswylfeydd, gan gysylltu gyda Heddlu De Cymru wrth gwrs, ond gan ddangos dewrder a menter hefyd wrth wynebu rhai o’r rhwystredigaethau sy’n gallu deillio o’r cyfnod clo. Mae’r tîm preswylfeydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gefnogi myfyrwyr a datrys llu o broblemau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae galw parhaus wedi bod ar lanhawyr, gweithwyr cynnal a chadw a llawer o swyddi tebyg i sicrhau bod yr amgylchedd yn parhau’n ddiogel, yn iach ac yn gefnogol i’n myfyrwyr. Cafwyd ymrwymiad eithriadol gan staff y llyfrgell, yn gweithio oriau hir i ganiatáu i’n myfyrwyr gyrchu gwasanaethau’r llyfrgell yn bersonol ac o bell cymaint â phosibl dan yr amgylchiadau cyfyngedig hyn. Mae cydweithwyr academaidd wedi ymgymryd ag addysgu wyneb yn wyneb yn rheolaidd, a hwythau unwaith eto yn sicrhau’r rhyngweithio personol sy’n gallu gwneud cymaint o wahaniaeth yn aml. Fe wn o siarad gyda rhai o’n myfyrwyr yn uniongyrchol faint maen nhw’n gwerthfawrogi hyn, a hoffwn drosglwyddo eu gwerthfawrogiad a’u diolch i’r holl gydweithwyr sydd wedi wynebu’r heriau hyn gyda’r fath ysbryd di-ildio.
Mewn newyddion arall, roedd yn braf gweld ein bod wedi cynnal ein safle yn y tabl cynghrair sy’n mesur effeithiolrwydd prifysgolion y DU wrth gynhyrchu eiddo deallusol, creu cwmnïau deillio ac ymadael â’r cwmnïau hynny’n llwyddiannus, mewn perthynas â chyfanswm cyllid y sefydliad. Ar frig y rhestr mae Prifysgol Queen’s Belfast, yna Prifysgol Caergrawnt ac wedyn Caerdydd. Bydd ein gallu i drosi ymchwil yn ‘gwmnïau llewyrchus gwerth uchel’ yn hanfodol wrth i ni ymadfer o’r sioc economaidd yn sgil y pandemig. Bydd cwblhau’r Campws Arloesedd y flwyddyn nesaf yn gyfle nid yn unig i ni gynnal neu hyd yn oed wella ein safle ar y rhestr hon, ond yn bwysicach o lawer, bydd yn helpu i greu swyddi a gwella bywydau pobl yn y cyfnod economaidd anodd sydd o’n blaen.
Dyw hi ddim yn glir eto pa mor anodd fydd y cyfnod economaidd sydd o’n blaen, ond mae pawb, gan gynnwys llywodraeth y DU, yn cytuno os na fydd modd cwblhau cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau manteisiol, yna bydd o leiaf gyfnod o darfu yn nhermau masnach a materion eraill. Dylem wybod y canlyniad yn fuan, ond yn y cyfamser, yn natganiad y Canghellor ar wariant y llywodraeth dros y flwyddyn nesaf cafwyd rhywfaint o wybodaeth yr oedd dirfawr ei hangen, er nad oedd fawr o groeso iddi, ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), y bwriedir iddi ddisodli cronfeydd strwythurol yr UE ar gyfer datblygu rhanbarthol, sydd wedi bod yn rhan mor hanfodol o gyllido prifysgolion Cymru dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. I roi’r elfen sy’n ymwneud â chyllido prifysgolion yn ei chyd-destun, roedd cyllid Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru yn cyfrif am o ddeutu 25% o’r gefnogaeth i brifysgolion Cymru dros y ddegawd neu ddwy diwethaf. Nid oedd datganiad y Canghellor ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn sôn am brifysgolion o gwbl, ac mae’n glir bellach na chaiff cyllid SPF ei sianelu drwy lywodraeth Cymru, ac y bydd llawer yn is yn y cyfnodau cynnar o leiaf. Ymhellach, rôl ymhlyg arfaethedig yn unig sydd i brifysgolion. Ni chaiff y broses ar gyfer dyrannu cyllid ei chyhoeddi tan y gwanwyn, ond rhaid i mi ddweud nad yw hyn yn newyddion cadarnhaol iawn a’i fod ymhell o’r hyn a addawyd yn wreiddiol a’r hyn y gellid bod wedi’i ddisgwyl.
Ar yr ochr gadarnhaol, tra bod amser gennym ni o hyd, mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i sicrhau dyfarniadau newydd sylweddol o Raglen Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r Athro Roberta Sonnino o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi ennill £582k am ei gwaith yn rhan o gonsortiwm ‘Building pathways towards FOOD 2030-led urban food policies’. Mae’r prosiect cyffredinol yn derbyn cymorth grant o €12 miliwn a’i nod yw ateb heriau darparu bwyd fforddiadwy, diogel a maethlon i ddinasyddion Ewrop a chreu Systemau Bwyd Dinas-Ranbarth iachach a mwy cynaliadwy. Bydd y prosiect yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio wrth gwrs ac mae’n llwyddiant sylweddol i’r Athro Sonnino.
Gan aros gyda thema ymchwil, llongyfarchiadau i ddau ymchwilydd o Gaerdydd sydd wedi ennill Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol newydd clodfawr gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae Dr Dayne Beccano-Kelly, fydd yn ymuno’n fuan â’r Ysgol Meddygaeth a’r Sefydliad Ymchwil Dementia yn y Brifysgol, yn ymchwilio i gamau cynharaf clefyd Parkinson a’r pethau a all fynd o chwith hyd yn oed cyn i’r arwyddion clinigol cyntaf ymddangos. Mae Dr Beccano-Kelly hefyd yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth o faterion gwyddonwyr du mewn STEM; eu niferoedd anghymesur o isel, a’r rhwystrau mae gwyddonwyr du yn eu hwynebu. Mae ymchwil Dr Jose Camacho Collados o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sydd hefyd wedi ennill FLF, yn canolbwyntio ar Brosesu Iaith Naturiol (NLP) a sut gall cyfrifiaduron ddeall iaith, gan wella modelau NLP er mwyn gallu eu dehongli’n well. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o gonsortiwm mawr, dan arweinad Prifysgol Caeredin, a fydd yn helpu i ddatblygu’r arweinwyr ymchwil ac arloesi’r dyfodol hyn drwy Rwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Yr Athro Claire Gorrara sy’n arwain gweithgaredd Prifysgol Caerdydd, fydd yn cynnwys ffocws ar bwnc cynyddol bwysig gwella’r diwylliant ymchwil.
Mewn newyddion ymchwil arall mae’n bleser gennyf adrodd bod yr Athro Colin Dayan wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr cyntaf y Swyddfa Ymchwil ar y Cyd (JRO) gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bu’r JRO mewn datblygiad am gyfnod hir ond o’r diwedd mae wedi’i sefydlu ar ôl blynyddoedd o gynllunio a meddwl. Y nod yw gallu cynnal ymchwil glinigol ar y cyd, fel mae’r enw’n ei awgrymu, er mwyn rhoi ffocws fydd yn arwain at welliannau clinigol er budd cleifion drwy ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd a’n gallu i gaffael cyllid allanol yn y ffordd orau. Mae’n gam hanfodol ymlaen i’r ddau sefydliad ac mae’n bleser llongyfarch yr Athro Dayan ar ei benodiad.
Mis Tachwedd hefyd yw Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia, â’r nod o wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o Islam a’r hyn mae bod yn Fwslim yn ei olygu. Aeth Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol y Myfyrwyr ati i wahodd Ymgysylltu a Datblygu Mwslimaidd (MEND) Caerdydd i annerch ein myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd am achosion Islamoffobia a sut i frwydro ffug-wybodaeth. Gallwch ddarllen mwy am y digwyddiad a gweithgareddau’r grŵp yma.
Yn olaf, ac i orffen ebost hir braidd ar nodyn cadarnhaol arall, rwy’n falch i adrodd ers fy niweddariad diwethaf ar y pwnc, fod cyllid y Brifysgol wedi gweld gwelliant sylweddol oherwydd recriwtio mwy o fyfyrwyr nag oeddem ni wedi’i ddisgwyl yng nghanol y pandemig byd-eang. Mae ein penderfyniad i gynnal model dysgu cyfunol, sicrhau campws coronafeirws COVID-19 ddiogel a sefydlu ein gwasanaeth sgrinio ein hunain, ynghyd â chymorth helaeth i fyfyrwyr, wedi rhoi hyder i’n myfyrwyr fynychu’n bersonol ond hefyd wedi cynnig y dewis iddyn nhw astudio o bell os mai dyna eu dymuniad. O ganlyniad mae’r diffyg ariannol a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn eisoes wedi lleihau’n sylweddol o’i gymharu â rhagamcanion cynharach. Oherwydd yr ansicrwydd eithriadol ynghylch recriwtio myfyrwyr eleni, cytunwyd na chaiff y gyllideb ei chytuno’n derfynol tan fis Rhagfyr. Rwyf i’n rhagweld y byddaf yn gallu rhoi amlinelliad o’r sefyllfa gyda fy nghydweithwyr ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol mewn gweminar i’r holl staff ar 16 Rhagfyr ac, fel y soniais, y bydd y newyddion yn gymharol dda o’i gymharu â’r ffordd roedd pethau’n ymddangos ynghynt yn y flwyddyn.
Cofion gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014