Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariadau o’r campws gan y Rhag Is-Ganghellor: 26.08.20

28 Awst 2020
Claire Morgan

Annwyl Fyfyriwr,

Rydym yn deall bod rhai ohonoch o bosibl yn nerfus am hel eich pac a chychwyn ar eich teithiau yn ôl i Gaerdydd, felly hoffwn ddefnyddio neges heddiw i roi trosolwg i chi am y mesurau diogelwch sydd bellach ar waith i’ch cadw chi, ein staff a’r gymuned ehangach yn ddiogel yn ystod y flwyddyn nesaf.

Gwasanaeth profi COVID-19 y Brifysgol

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd yn aros ar y lefelau isel iawn sy’n cael eu hadrodd ar hyn o bryd. I’r strategaeth hon, mae penderfyniad y Brifysgol yn hanfodol, sef cynnig rhaglen o brofi parhaus am y coronafeirws, gan brofi ein holl fyfyrwyr (a staff) sy’n asymptomatig.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd, byddwch yn cael eich gwahodd i un o’n gorsafoedd profi er mwyn cael prawf poer ar gyfer COVID-19, a gynhelir gan wasanaeth profi’r Brifysgol. Mae’r prawf yn ddiogel iawn, a does dim byd i boeni amdano. Byddwn yn eich tywys drwy’r broses, a bydd staff ymroddedig yno i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau allai fod gennych.

Er bod y prawf yn wirfoddol, byddem yn eich annog yn gryf i gymryd rhan a helpu i amddiffyn cymuned Caerdydd. Po fwya’r ymgysylltiad gennych chi, mwya’r effaith y bydd y gwasanaeth profi yn ei chael o ran ein cadw ni i gyd yn ddiogel.

Yn yr achos annhebygol bod unrhyw fyfyriwr (neu aelod staff) yn cael canlyniad positif, byddant yn cael eu hannog i hunan-ynysu a dilyn y canllawiau cyfredol sydd ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os ydynt yn byw gyda phobl eraill, rhaid i bob aelod o’r tŷ aros gartref a hunan-ynysu hefyd. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r GIG i roi cefnogaeth ychwanegol os oes angen.

Byddwch yn cael rhagor o fanylion ar y gwasanaeth profi yn yr ychydig wythnosau nesaf. Pan fydd yn eich cyrraedd, cymerwch ychydig o amser i adolygu’r wybodaeth hon. Bydd yn eich helpu i ddeall y broses, ac yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam clir i chi. Bydd hefyd cyfle i gysylltu â staff cymorth os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Mesurau diogelwch ychwanegol

Mae profi ond yn effeithiol yn rhan o fesurau diogelwch ehangach y mae’r Brifysgol a dinas Caerdydd wedi’u rhoi ar waith dros yr haf. Cofiwch y bydd angen cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn y Brifysgol waeth beth yw’r newidiadau’n genedlaethol/yn lleol. Bydd pob myfyriwr ac aelod staff ar y campws yn cael pecyn o orchuddion wyneb y mae modd eu defnyddio eto, y bydd angen i chi eu gwisgo pryd bynnag yr ydych y tu mewn i’n hadeiladau (gyda rhai eithriadau penodol e.e. wrth siarad mewn seminar tra’n cadw at reolau pellter cymdeithasol), ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Drwy wisgo gorchuddion wyneb a dilyn y rheolau o ran pellter cymdeithasol, nid yn unig rydych chi’n cadw eich gilydd yn ddiogel, ond hefyd ni fyddwch yn cael eich ystyried yn gyswllt i rywun sydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Bydd hyn yn lleihau’r tebygolrwydd yn sylweddol y bydd angen i chi hunan-ynysu am 10 neu 14 diwrnod hefyd. Fel y nodwyd yn fy neges diweddaraf, mae Ymrwymiad Cymuned COVID-19 ein Prifysgol yn cynnwys eithriadau a mesurau uwchgyfeirio ar gyfer y rheiny nad ydynt yn dilyn y canllawiau hyn.

Gallwch hefyd gael crynodeb manylach o’r holl newidiadau a wnaed ers i chi fod ar y campws yma.

Gwasanaeth casglu ar fws ar agor i fyfyrwyr sy’n dychwelyd

Yn olaf – i’r rheiny ohonoch sy’n cyrraedd o dramor, mae modd i’r gwasanaeth casglu ar fws gwrdd â chi yn y maes awyr. Am y tro cyntaf, rydym yn gwneud y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol newydd a rhai sy’n dychwelyd. Ceir rhagor o fanylion yma.

Gobeithio bod hyn yn helpu i roi sicrwydd i chi mai eich iechyd a’ch lles yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn rhoi mesurau ar waith i’ch cadw chi’n saff yn ystod eich amser yng Nghaerdydd.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr