Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariadau o’r campws gan y Rhag Is-Ganghellor: 24.08.20

25 Awst 2020
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd heddiw (24 Awst) ynghylch cynllunio ar gyfer sesiwn academaidd 2020/21.

Annwyl Fyfyriwr,

Wrth i fis Medi nesáu, mae’r Brifysgol wedi creu Ymrwymiad Cymunedol newydd ar y coronafeirws (COVID-19) i bob aelod o staff a myfyriwr. Mae’n trafod y cyfrifoldebau fydd gennym oll i gadw ein gilydd yn ddiogel, ac mae wedi’i ysgrifennu gyda’r gobaith y byddwn yn gallu dangos parch at ein gilydd, a bod yn bositif ac yn agored. Bydd fy neges nesaf yn rhoi diweddariadau pellach i chi ar y mesurau diogelwch sy’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Dysgu digidol

Yn yr neges, rwy’n falch o rannu adnodd newydd gyda ni: cyflwyniad i ddysgu digidol ac ar-lein ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei greu i’ch helpu i baratoi at y flwyddyn i ddod ac i deimlo’n hyderus gyda’r elfennau ar-lein yn eich rhaglenni.

Gwyddwn y bydd hon yn flwyddyn anarferol gyda phwyslais mwy ar ddysgu digidol. Hoffwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i gynnig profiad dysgu difyr o safon uchel i chi – profiad a fydd yn eich helpu i lwyddo.

Bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â’n hagweddau dysgu ac addysgu. Cafodd hefyd ei greu i’ch cyfeirio chi at amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar draws y Brifysgol fydd yn eich galluogi i wneud y mwyaf o’ch astudiaethau. Rwy’n eich annog chi i gyd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i baratoi at y semester newydd a chyfeirio ati drwy gydol y flwyddyn.

Rydym hefyd yn diweddaru polisïau presennol eraill megis y Polisi Rhwyd Diogelwch a’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol.  Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi pan fyddant wedi’u cadarnhau.

Cyswllt Myfyrwyr

Wrth drafod cefnogaeth, hoffwn hefyd sôn am ein gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr newydd. Dyma fydd eich pwynt cyswllt cyntaf nawr os oes angen unrhyw gymorth arnoch tra’n astudio gyda ni. Er mwyn cysylltu â’r tîm, gallwch ebostio: studentconnect@caerdydd.ac.uk, ffonio nhw (+44 (0)29 2251 8888) neu gallwch fynd ar dudalennau Cefnogi a Lles Myfyrwyr ar y fewnrwyd a holi’r sgyrsfot newydd sydd ar gael 24/7.

Gwasanaeth Llyfrgell clicio a chasglu

Cyn i lawer ohonoch ddychwelyd i’r campws, mae llawer o’n gwasanaethau eisoes yn weithredol unwaith eto gyda mesurau diogelwch newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys ein gwasanaeth llyfrgelloedd, sy’n gweithredu gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ o Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Mae ar gael ddydd Llun – dydd Gwener, 09:15 – 16:15 ac mae modd dod o hyd iddo ar LibrarySearch.

Byddwch yn derbyn ebost pan fydd eich cais ar gael i’w gasglu, a byddwch yn gallu bwcio amser casglu sy’n gyfleus i chi. Os nad ydych yn gallu mynd i’r llyfrgell eich hun (e.e. os oes angen i chi hunan-ynysu), gallwch wastad enwebu rhywun i gasglu’r llyfrau ar eich rhan. Bydd rhagor o bwyntiau clicio a chasglu yn Llyfrgelloedd Iechyd a Threvithick, yn ogystal â mannau astudio yn y llyfrgelloedd mwy, yn barod ym mis Medi.

Gobeithio y bydd y diweddariadau hyn yn dal i fod yn ddefnyddiol i chi cyn i chi ddychwelyd ym mis Medi. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn paratoi, ac yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn yr wythnosau nesaf.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr