Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Ein polisi astudio o bell yn cefnogi addysg ddigidol myfyrwyr

8 Medi 2020
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, a anfonwyd 7 Medi am y polisi astudio o bell a chefnogi eich addysg ddigidol.

Annwyl Fyfyriwr,

Yn gynharach yn yr haf, gwnaeth llawer ohonoch lenwi arolwg er mwyn rhannu eich profiadau a’ch disgwyliadau o ran astudio mewn amgylchedd digidol. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol i ni ac mae wedi chwarae rôl allweddol wrth lywio ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Y thema amlycaf yng nghanlyniadau’r arolwg oedd eich pryder ynghylch beth i’w ddisgwyl wrth i chi ddychwelyd i astudio. Roedd hyn yn seiliedig ar beth ddigwyddodd yn ystod cyfnodau cyntaf y cyfnod clo rhwng mis Mawrth a diwedd y sesiwn academaidd ddiwethaf. Hoffwn eich sicrhau y bydd eich profiad addysgol yn ystod 2020/21 yn wahanol iawn i’r cyfnod hwnnw oherwydd y gwaith cynllunio a pharatoi sydd gennym ar waith bellach.

Cefnogi eich addysg ddigidol

I baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, fe greodd y Brifysgol y Rhaglen Addysg Ddigidol. Daeth bron 200 o staff o bob rhan o’r Brifysgol ynghyd i greu canllawiau, adnoddau a hyfforddiant i fyfyrwyr a staff, fel y gallwn gynnig profiadau dysgu ar-lein o safon uchel i’n holl fyfyrwyr y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a’n Hyrwyddwyr Myfyrwyr wrth baratoi’r Rhaglen Addysg Ddigidol, gan sicrhau y bydd yr hyn rydym wedi’i lunio yn gweithio ar gyfer ein myfyrwyr.

Mae rhai o’n prif ddatblygiadau yn cynnwys:

  • Fframwaith Addysg Ddigidol newydd sy’n pennu’r safonau creiddiol i’w cyflawni ym mhob modiwl.
  • Rydym wedi paratoi rhaglen gynhwysfawr o gymorth hyfforddiant ar gyfer pob aelod staff addysgu er mwyn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr amgylchedd dysgu digidol.
  • Fel y nodwyd yn fy ebost ar 24 Awst, rydym wedi lansio canllaw i fyfyrwyr o’r enw Dysgu digidol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei greu i’ch helpu i baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod ac i deimlo’n hyderus gyda’r elfennau ar-lein yn eich rhaglenni. Gallwch ddarllen rhagor am hyn ar y fewnrwyd.

Diweddariad polsi astudio o bell

Fel yr eglurwyd yn flaenorol, rydym yn cyflwyno polisi astudio o bell i gefnogi’r rhai ohonoch a allai gael anawsterau o ran dychwelyd i’r campws yn syth. Bellach gallwn gadarnhau’r proses ar gyfer gwneud cais i astudio o bell:

  1. Mae’r rhaglenni nad ydynt yn gymwys (oherwydd e.e. dull addysgu, cynnwys cwrs, neu achrediad cysylltiedig) wedi’u rhestru yma. Darllenwch hwn cyn gwneud cais.
  2. Mae Tasg y Myfyriwr bellach ar gael ar dudalen Fy Nghofnod Myfyriwr ar SIMS (gweler tasg Gwneud Cais i Astudio o Bell) i chi wneud cais i astudio’r semester cyntaf ar-lein yn unig.
  3. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd eich Ysgol yn ei ystyried a chewch wybod beth yw penderfyniad yr Ysgol drwy e-bost.

Ar gyfer llawer ohonoch, mae dechrau blwyddyn academaidd newydd bron â chyrraedd. Rydym yn parhau i ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn dychwelyd i’r campws, ac i ni roi profiad dysgu cyfunol pan fyddwch yn cyrraedd. Rydym yn cadw llygad barcud ar ganllawiau’r llywodraeth a chanllawiau iechyd, ac os bydd canllawiau lleol neu genedlaethol yn newid ar ôl i’r tymor ddechrau, neu os caiff cyfnod clo lleol ei gyhoeddi, hoffwn eich sicrhau y byddwn yn defnyddio’r profiad a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf i’ch cadw’n ddiogel, fel bod cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i’ch astudiaethau.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr