Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 20 Tachwedd 2017

20 Tachwedd 2017
  • Nodwyd y byddai Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar effaith myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn hwyrach yn yr wythnos ac, er gwaethaf y lleihad bach yn nifer y myfyrwyr o’r tu allan i’r UE a recriwtiwyd yng Nghymru, bod y ffigur yng Nghaerdydd wedi cynyddu 13% ers 2013/14.
  • Nodwyd bod Panel Adolygu Reid wedi ymweld â’r Brifysgol ar 16 Tachwedd 2017 ac wedi cwrdd ag aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, Deoniaid a staff uwch eraill.
  • Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ymdrin â’r holl nodweddion gwarchodedig, cyflwynwyd enwebiad ar gyfer y Bwrdd hwnnw gan bob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
  • Nododd yr Athro Thomas fod gwaith ar y gweill i ddatblygu cynlluniau gweithredu’r is-strategaethau Ymchwil, Arloesedd a’r Genhadaeth Ddinesig. Cytunwyd y dylid cyflwyno cynlluniau gweithredu’r is-strategaethau i’r Bwrdd ar 15 Ionawr 2018 ac y byddai recriwtio myfyrwyr yn cael ei gynnwys yn is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr.
  • Nodwyd bod digwyddiad Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth, a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2017, wedi bod yn llwyddiannus.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar yr Adolygiad Strategaeth o’r Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Roedd yr adolygiad wedi edrych ar ddull presennol y Brifysgol o gynnig addysg gyfrwng Cymraeg, gydag argymhellion ynglŷn â sut i wella.  Nodwyd pa mor bwysig fyddai penodi Deon y Gymraeg er mwyn sicrhau arweinyddiaeth academaidd strategol uwch.  Cytunwyd y byddai fersiwn arall o’r papur yn cael ei ddatblygu i amlinellu’r hyn roedd y Brifysgol yn ei gwneud, ac y byddai’r camau’n cael eu rhannu â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CCAUC.
  • Cafodd y Bwrdd datganiad y Brifysgol ar gyfer Dogfen Cynllunio ac Ymgysylltu Strategol CCAUC 2017 a 2018. Roedd y datganiad yn cynnwys adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2016/17 yn erbyn strategaeth sefydliadol y Brifysgol a thargedau cenedlaethol CCAUC, a throsolwg o’r strategaeth sefydliadol hyd at 2017/18.  Cytunwyd, gyda rhai mân newidiadau, i fynd i’r Cyngor i gael cymeradwyaeth.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar enillion graddedigion yng Nghymru.
  • Cafodd y Bwrdd ar Adroddiad Pobl Blynyddol, bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at y Cyngor.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd y diweddaraf am Lais y Myfyrwyr.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd y diweddaraf am yr archwiliad mewnol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn amlinellu ad-drefniad Llywodraeth Cymru, a nodwyd mai Ken Skates AC oedd deiliad y briff gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd erbyn hyn.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol i gyflwyniad Grŵp Russell i alwad y Pwyllgor Ymgynghorol Mudo am dystiolaeth. Nodwyd bod cyflwyniad y Brifysgol at y Pwyllgor Ymgynghori Mudo yn cael ei lunio, ac y byddai ar gael mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Cafodd y Bwrdd agenda drafft y Cyngor a’i nodi.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
  • Adroddiad misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata