Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 22 Mai 2017
22 Mai 2017- Nodwyd bod yr Athro Luc Sels wedi cael ei ethol yn Rheithor newydd KU Leuven o 1 Awst 2017 ymlaen, gan gymryd lle’r Athro Rik Torfs.
- Cafodd yr Athro Dylan Foster-Evans ei benodi’n Bennaeth Ysgol y Gymraeg o 1 Awst 2017 ymlaen, gan gymryd yr awenau gan yr Athro Sioned Davies, fu’n bennaeth ers dros 20 mlynedd.
- Bydd yr Athro Gary Baxter, Pennaeth Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn cymryd yr awenau gan yr Athro Jones fel Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
- Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol i Fframwaith Ymarfer Da Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol: Ymdrin â Chwynion ac Apeliadau Academaidd – Cefnogi Myfyrwyr Anabl, a chytunwyd arnynt yn amodol ar rai mân newidiadau.
- Cafodd y Bwrdd gopi drafft o weledigaeth GW4 ar gyfer ymchwil ac arloesedd. Gwnaed nifer o sylwadau am ffyrdd y gellid cryfhau’r ddogfen, a byddai’r rhain yn cael eu rhannu ag is-gangellorion GW4 a’r cyfarwyddwr.
- Cafodd y Bwrdd gopi o ymateb drafft y Brifysgol i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ei Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl, a’i gymeradwyo.
- Cafodd y Bwrdd y gofrestr Brexit ddiweddaraf i’w hadolygu.
- Cafodd y Bwrdd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017/18, a gwnaed sylwadau am y ffaith y byddai setliad CCAUC i’r sector, fel y’i cyhoeddwyd yn y llythyr cylch gwaith, yn heriol iawn.
- Cafodd y Bwrdd yr adroddiad chwarterol ar gynnydd yn erbyn targedau. Ni chafwyd unrhyw newidiadau sylweddol ers iddo gael ei adolygu ddiwethaf, a byddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau a’r Cyngor i’w nodi.
- Cafodd y Bwrdd bapur yn amlinellu’r Cynllun Gwobr Cyfraniad Rhagorol ar gyfer 2016/17. Nodwyd bod staff yn gwerthfawrogi’r cynllun, a’i bod yn gwobrwyo ac yn cydnabod nifer fawr o staff sy’n rhagori ar y safonau a ddisgwylir, ac sydd wedi bod yn rhagorol ac yn haeddu cydnabyddiaeth benodol. Cytunodd y Bwrdd i lansio’r cynllun yn 2017 fel yr oedd wedi’i amlinellu.
- Cafodd y Bwrdd yr adroddiad am geisiadau myfyrwyr. Byddai’r Athro Boyne a Ms Sanders yn gwneud cyflwyniad manwl i’r Bwrdd ym mis Mehefin.
- Cafodd y Bwrdd adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg, a oedd yn amlygu’r cynnydd a’r datblygiadau yn erbyn gofynion Cynllun Iaith Gymraeg y Brifysgol, ac yn cynnig data ystadegol fel sy’n ofynnol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Nododd y Bwrdd eu bod wedi eu hymrwymo’n barhaus i’r cynllun a’u bod yn ei gefnogi.
- Cafodd y Bwrdd yr agendâu drafft ar gyfer y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau, Llywodraethu, a’r Senedd.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Y newyddion diweddaraf am yr amgylchedd allanol
- Y newyddion diweddaraf am ymchwil ac arloesedd
- Y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014