Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Pwysigrwydd Mentora

24 Mai 2017

Fel Prifysgol mae gennym draddodiad hir o’n staff yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau lleol. Mae llawer ohonom yn aelodau o fyrddau cynghori, ymddiriedolwyr, llywodraethwyr neu’n gwirfoddoli gyda grwpiau cymunedol. Mae gan lawer ohonom rolau mentora ffurfiol ac anffurfiol gyda phobl o bob oedran ac o wahanol gefndiroedd. Ym mha bynnag ffurf y daw’r ymgysylltu sifig hwn, yn aml mae’r manteision personol a phroffesiynol yn enfawr.

Mae geni brofiad personol o fanteision mentora, fel rhywun sydd wedi cael mentor ac wedi bod yn fentor. Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi bod yn ffodus i gael fy mentora gan bobl sydd wedi fy annog a’m cefnogi i gyrraedd fy llawn botensial. Rydw i hefyd wedi cael y fraint a’r profiad hynod foddhaol o fentora pobl ifanc i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a’u sgiliau cyflogadwyedd eu hunain, ac i gyrraedd eu potensial.

Dyna pam rydw i wedi dewis cefnogi One Million Mentors, menter a gynhelir ledled y DU gan Uprising, sy’n mabwysiadu dull arloesol ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i drawsnewid y broses o fentora. Diben One Million Mentors yw hyfforddi, recriwtio a chysylltu miliwn o fentoriaid â phobl ifanc yn y DU a’u helpu i fanteisio ar eu talentau a chael swydd, dros y ddeng mlynedd nesaf.

Menter amserol iawn yw hon, yn enwedig yn y cyfnod hwn ar ôl Brexit, lle mae rhaniadau dwfn rhwng cymunedau a chenedlaethau. Mae’n bwysicach nag erioed i ni chwarae ein rhan i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio eu talentau a’u sgiliau i wneud cyfraniad cadarnhaol at ein cymdeithas. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn One Million Mentors, cewch ragor o wybodaeth yma a dolen at y ffurflen gofrestru.