Rhannu arbenigedd a manteisio ar wybodaeth
15 Mai 2017Braint fawr oedd croesawu yr Athro yr Arglwydd Darzi o Denham i draddodi’r ail o’n darlithoedd ‘Cartref Arloesedd’.
Clywodd academyddion, arweinwyr busnes a chlinigwyr am sut bydd dyfodol llawfeddygaeth yn cael ei ddylanwadu gan bobl sy’n cydweithio ar draws disgyblaethau – dadansoddi data, roboteg, technoleg dysgu peiriant.
Dangosodd yr Arglwydd Darzi sut bydd datblygiadau gwyddonol – gan gynnwys dealltwriaeth well o gyfansoddiad genomig y corff dynol – yn helpu clinigwyr i fod yn fwy manwl wrth reoli cleifion.
Pwysleisiodd y gallai llawfeddygon, drwy rannu arbenigedd a manteisio’n llawn ar eu gwybodaeth, gynnig triniaethau ac ymyriadau penodol wedi eu teilwra ar gyfer anghenion pob claf.
Cyflwynodd rai o’r datblygiadau diweddar ym maes gwyddoniaeth llawfeddygaeth, gan gynnwys dulliau o weithio â chyllyll deallus, roboteg, a llawfeddygaeth fanwl. Dangosodd sut gall technolegau newydd, gan gynnwys ap symudol i reoli data cleifion, gynorthwyo gofal mewn lleoliad clinigol prysur.
Mae dealltwriaeth yr Arglwydd Darzi o ryngddisgyblaetholdeb, ei frwdfrydedd dros dechnolegau newydd, a’i ymrwymiad cadarn at fynd i’r afael â heriau yn y maes yn cynnig arweiniad clir ar gyfer ein Partneriaeth Arloesedd Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Drwy gydweithio, gobeithiwn gyflwyno ffyrdd newydd o gynnig gofal iechyd, a chefnogi economi Cymru wrth wneud hynny.
Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd oedd y lleoliad perffaith i gynnal darlith yr Arglwydd Darzi, a hoffwn ddiolch i bob aelod o staff am ei ymdrechion. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o arloeswyr blaenllaw yn dod i’r Brifysgol, er mwyn dysgu o’u profiadau a newid ein ffordd o weithio.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014