
- Nodwyd bod Mr Chris Jones wedi ei benodi’n Bennaeth Cyfathrebu.
- Nodwyd bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch Adolygiad Diamond wedi’i ohirio oherwydd yr etholiad cyffredinol.
- Nodwyd bod cais y Brifysgol i Lywodraeth Cymru i gynnal Canolfan Cymru ar gyfer polisi cyhoeddus wedi bod yn llwyddiannus.
- Cafodd y Bwrdd ddrafftiau diweddaraf y strategaeth newydd, yr is-strategaethau, y dangosyddion perfformiad allweddol a’r dangosyddion arweiniol.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft y Cynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2017/18.
- Cafodd y Bwrdd yr adroddiad blynyddol am gyd-fentrau’r Brifysgol.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol yr Ystadau