Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 20 Mawrth 2017

20 Mawrth 2017
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Cubane Consultants am ddata gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol. Mae data Uniforum yn cynnig meincnodau ar bob lefel o waith y gwasanaethau proffesiynol. Mae’n seiliedig ar fodel ystadegol ac yn addasu costau gweithredu yn unol â graddfa’r gwaith a dwysedd yr ymchwil.  Caiff y data ei gyflwyno i uwch-aelodau staff.
  • Cafodd y Bwrdd y drafftiau diweddaraf o is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen ar gyfer 2018-23. Cytunwyd y dylid safoni fformat pob un o’r is-strategaethau ac y byddai’r Tîm Cyfathrebu yn eu hadolygu i wneud yn siŵr bod yr iaith yn gyson.  Cafwyd trafodaeth am y Dangosyddion Perfformiad Allweddol lefel uchel posibl i wneud yn siŵr y bydd y rhai a ddewisir yn ysgogi’r ymddygiad a ddymunir.  Cytunwyd y byddai’r strategaeth, yr is-strategaethau a’r DPau allweddol a argymhellir yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yr wythnos nesaf.
  • Cafodd y Bwrdd yr ymateb terfynol i’r ymgynghoriad ynghylch REF.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Cafodd y Bwrdd yr adroddiad chwarterol am y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor