

Mae’n bleser gennyf nodi ein bod ni wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ein hymgyrch i sefydlu gweithgareddau ymchwil ar y cyd â phartneriaid ledled Ewrop a’r byd.
Ar 9 Mawrth, agorodd yr Is-Ganghellor ddigwyddiad yn Adeilad Hadyn Ellis, i arddangos ein hymchwil ryngwladol ac yn yr UE. Roedd hefyd yn gyfle i ddathlu ein hanner canfed grant gan Horizon 2020, rhaglen ymchwil ac arloesedd blaenllaw’r UE.
Mae hynny’n golygu bod y Brifysgol wedi cael cyfanswm o £24.5m hyd yma gan Horizon 2020 ers i’r rhaglen ddechrau yn 2014.
Mae’n glod i’n hymchwilwyr ac i ymdrechion staff y gwasanaethau proffesiynol wrth gefnogi’r ceisiadau hynny.
Yn wir, ers mis Awst, rydym wedi gwneud ceisiadau gwerth £79m i Horizon 2020. Byddwn yn parhau i wneud ceisiadau oherwydd fel y clywsom yn ein digwyddiad, mae o hyd llawer o gyfleoedd i’w cael.

Cafodd rhai o’n hymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i esbonio sut roedd eu gwaith arwyddocaol yn hyrwyddo gwyddoniaeth ragorol ac yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas. Yn eu plith, roedd yr Athro Lorraine Whitmarsh, yr un a lwyddodd i gael ein hanner canfed grant gan Horizon 2020.
Amlygwyd hefyd gyfleoedd byd-eang nad ydynt yn gysylltiedig â’r UE, gan gynnwys cronfeydd rhyngwladol fel Global Challenges Research Fund, Cronfa Newton a Chymdeithas Siapan ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth.

Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Rheolwr Swyddfa Ymchwil Ewropeaidd a Rhyngwladol, Nick Bodycombe a nifer o gydweithwyr am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.
Prif neges y digwyddiad yw bod angen i ni barhau i ymgeisio am arian i wneud ymchwil, boed yn arian sy’n gysylltiedig â’r UE neu fel arall. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, rhaid i ni ddal ati.