Delweddau Ymchwil
3 Chwefror 2017Mae Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd wedi bod yn weithredol ers dechrau’r flwyddyn academaidd bresennol, ac yn ddiweddar cefais y pleser o fynd i’w digwyddiad ‘Delweddau Ymchwil’. Digwyddiad cwbl unigryw yw hwn, sy’n dod â’n cymuned ôl-raddedig ynghyd, gan gynnwys ymchwilwyr, staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn sgil cystadleuaeth ar draws y Brifysgol i wahodd myfyrwyr doethurol i gyflwyno delwedd sy’n cynrychioli eu hymchwil, ynghyd â disgrifiad 150 o eiriau. Ar ôl y sgrinio cychwynnol, dewiswyd mwy na 40 o ddelweddau ar gyfer yr arddangosfa derfynol.
I gyflawni’r dasg heriol o feirniadu ceisiadau Delweddau Ymchwil, ymunodd Deoniaid Ymchwil Ôl-raddedig y Coleg â mi, sef Dr Emma Kidd, yr Athro Martin Kayman a’r Athro Walter Gear. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Sarah Winstanley o’r Ysgol Meddygaeth ar gyfer ei llun ‘The Daughter of Medicine’. Dyfarnwyd yr ail wobr i Tim Ebdon o’r Ysgol Peirianneg am ei lun ‘Bringing Turbine Wakes to Life‘. Enillydd Dewis y Bobl oedd Andrew Martin o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, am ‘Rainbow Rock‘.
Cenhadaeth yr Academi Doethurol, sydd newydd gael ei sefydlu, yw hyrwyddo Prifysgol Caerdydd fel sefydliad ymchwil ôl-raddedig blaenllaw, a bydd rôl Cyfarwyddwr yr Academi Ddoethurol, yr ydym wrthi’n recriwtio ar ei chyfer ar hyn o bryd, yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hynny. Bydd angen i ni wneud rhagor i ddatblygu a mireinio ein prosesau a’n rhaglenni hyfforddiant er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr cenedlaethol a rhyngwladol ill dau, ac yn ei wneud yn haws i’r ymchwilwyr ôl-raddedig gorau o bedwar ban y byd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae digwyddiadau fel Delweddau Ymchwil yn codi proffil ymchwilwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cryfhau’r ymdeimlad o gymuned, ac yn cynnig amodau perffaith ar gyfer rhannu gwybodaeth ar draws disgyblaethau. Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd â rhaglen yr Academi Doethurol drwy roi cyfle i ymchwilwyr roi’r sgiliau academaidd, proffesiynol a datblygiad personol yr ydym yn eu haddysgu ar waith.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014