Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ymweliad gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon

2 Chwefror 2017
National University of Ireland, Galway - 16x9

Ar 16 a 17 Ionawr, cynhaliodd Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ymweliad meincnodi gan staff cyfatebol ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, NUI, Galway, wrth iddynt baratoi i uno dau o’u Colegau.

Dros ddau ddiwrnod, cafodd y tîm o NUI Galway gyfle i gwrdd â’r Is-Ganghellor, Dirprwy Is-Gangellorion, Staff Uwch y Brifysgol a staff Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, i weld strwythur ein Coleg ac i ystyried pa mor bosibl o safbwynt gweithredol a strategol fyddai uno eu Colegau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Gwybodeg. Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys ymweliadau â’r Ysgolion Peirianneg a Chemeg.

Cafwyd adborth bod yr holl ryngweithio wedi bod yn ddefnyddiol dros ben o ran helpu’r tîm o NUI Galway wrth iddynt gynllunio’r broses uno, a bod yr holl wybodaeth wedi cael ymateb da mewn gwahanol fforymau yn Galway. Ar ran y Cofrestrydd a Dirprwy Lywydd, yr Athro Pól Ó Dochartaigh, hoffem ddiolch yn fawr i bawb a oedd yn rhan o’r ymweliad, ac am y croeso cynnes gan bawb.

Roedd hwn hefyd yn gyfle i mi a’m cydweithwyr fyfyrio ynglŷn â datblygiad ein Coleg ein hun, ac i edrych yn ôl ar ein llwyddiannau ers i strwythur y Coleg gael ei gyflwyno ym mis Medi 2012. Rhoddwyd rhyddid i bob Coleg ddatblygu ei strwythurau cefnogaeth ei hun, ac o ganlyniad i hyn roedd modd i’r tri ohonynt dyfu’n organig, yn ôl eu hanghenion eu hunain. Y nod yn ein Coleg yw meithrin diwylliant cydweithredol, a dywedodd yr Athro Ó Dochartaigh fod hyn wedi rhoi llawer o frwdfrydedd iddynt ynglŷn â’r posibiliadau colegol a fyddai ar gael.

I orffen gydag ychydig o golegoldeb, mae Wythnos Siarad yn dechrau ar 6 Chwefror, a bydd gan holl staff y Brifysgol gyfle i glywed yn uniongyrchol gan aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ac ymgysylltu â nhw drwy sesiynau holi ac ateb a thrafodaethau panel. Mae adborth bob amser yn bwysig i ni, felly gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Gall staff gofrestru yma.