Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 16 Ionawr 2017

16 Ionawr 2017
  • Cafdd y Bwrdd ddrafft o adroddiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, caiff yr adroddiad ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau ar 26 Ionawr.
  • Cafodd y Bwrdd is-strategaethau drafft y strategaeth newydd: Addysg/Myfyrwyr; Ymchwil; Arloesedd; Cenhadaeth Sifig; a Rhyngwladol. Trafodwyd ffurf a chynnwys drafft yr is-strategaethau; cytunwyd bod angen mwy o gysondeb a chroesgyfeirio rhwng yr is-strategaethau a’r strategaethau uwch.
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad chwarterol ar Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar weithgareddau’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y Brifysgol, a rhoddodd sel bendith i ymateb i’r galw newydd am brosiectau cyllid ERDF.
  • Cafodd y Bwrdd deitl polisi Emeritws diwygiedig a chymeradwyodd welliannau a oedd yn cynnwys y gallu i fedru defnyddio teitl y darllenydd.
  • Cafodd y Bwrdd y Côd Ymarfer diwygiedig ar Ryddid Barn sydd bellach yn ystyried cyfrifoldebau ychwanegol y Brifysgol o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2015 ac sydd hefyd yn egluro’r cyfyngiadau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth ryddid barn.
  • Cafodd y Bwrdd argymhellion y Grŵp Adolygu Ystafelloedd Tawel a chytunodd i’w cymeradwyo. Bydd y polisi yn mynd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu nesaf.
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad ar ddatblygiad a statws y Rhaglen Iaith Saesneg a’r Rhaglen Sylfaen Ryngwladol ar gyfer 2016/17.
  • Cafodd y Bwrdd eu diweddaru ar ŵyl Y Gelli ac Eisteddfod 2016.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
  • Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor