Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 21 Tachwedd 2016

21 Tachwedd 2016
  • Nodwyd y digwyddiadau llwyddiannus a gynhaliwyd i ddathlu lansio partneriaeth strategol Caerdydd-Xiamen. Amlygwyd hefyd raglen PhD ar y cyd Caerdydd-Xiamen ar gyfer 2017/18. Mae’r cynllun ar waith erbyn hyn a dylai partneriaethau ymchwil gael eu hannog.
  • Nodwyd y bydd rhifynnau diweddaraf Cyswllt Caerdydd a Diolch yn cael eu hanfon at yr holl gynfyfyrwyr cyn bo hir.
  • Nodwyd hefyd lwyddiant y digwyddiad Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth diweddar.
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi cael llythyr gan Brif Weinidog Cymru yn llongyfarch y Brifysgol ar lwyddiant Prosiect Phoenix.
  • Nodwyd llwyddiant y ddarlith gyntaf yng nghyfres o ddarlithoedd y Cartref Arloesedd gan yr Athro Laura Tenison.
  • Fe gafodd y Bwrdd achos busnes i roi arian sbarduno ar gyfer prosiect llawn Recriwtio a Derbyn Dewis Cyntaf. Os caiff ei roi ar waith, nodwyd y byddai’n gosod fframwaith ar gyfer gweithgareddau recriwtio gyda chymorth technoleg rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM). Bydd hefyd yn rhoi porth newydd i ymgeiswyr a fyddai’n cynnig gwasanaeth canolog i wella profiad y myfyrwyr.  Cytunwyd y byddai arian yn cael ei gymeradwyo i ddatblygu’r achos busnes gerbron y Bwrdd ym mis Ionawr 2017.
  • Cafodd y Bwrdd raglenni amlinellol drafft ar gyfer dwy raglen datblygu arweinwyr newydd; cytunwyd y byddai’r rhaglen arweiniad proffesiynol a rhaglen datblygu’r Deoniaid yn cael eu datblygu i fod yn gynlluniau peilot.
  • Cymeradwyodd y Bwrdd bapur y Brifysgol i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor
  • Y diweddaraf am Adeiladau Arloesedd a’r Amgylchfyd Cyhoeddus
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu