Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Datblygu’r sgiliau a’r gallu i ymgysylltu

10 Tachwedd 2016

Mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi bod yn gwella eu sgiliau a’u hyder i sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n effeithiol ar sail tystiolaeth gadarn drwy raglen i feithrin gallu.

Yn 2015/16 roedd y rhaglen yn cynnwys datblygu a chynnig 12 cwrs hyfforddiant, 16 o adnoddau i’w lawrlwytho, pum astudiaeth achos, a chymorth a chyngor pwrpasol ar gyfer cynigion strategol.

Mae nifer y bobl a aeth i’r cyrsiau hyfforddiant, nifer yr ymwelwyr i’r wefan, a’r adborth cadarnhaol yn dangos pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen. Lansiwyd grŵp Ymgysylltu newydd ar Yammer, sy’n rhannu’r newyddion ac arferion gorau diweddaraf ym maes ymgysylltu.

Yn 2016/17, bydd y rhaglen i ddatblygu’r gallu i ymgysylltu yn ehangu er mwyn cefnogi dull clir o sicrhau bod ymchwil yn cael effaith.

Mae deg cwrs hyfforddiant eisoes wedi eu cynllunio, ac mae lleoedd ar gael i staff academaidd a staff gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarth meistr ymgysylltu, cwrs am fonitro ac ymgysylltu, cwrs am ddangos tystiolaeth o’r buddiannau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu, a chwrs am ymgysylltu ag effaith. Cewch ragor o wybodaeth drwy fynd i’r tudalennau Ymgysylltu ar y fewnrwyd.

Bydd un deg tri o adnoddau i’w lawrlwytho yn cael eu datblygu eleni, a fydd yn ychwanegu at y dogfennau sydd eisoes ar gael ar-lein er mwyn cynorthwyo’r gwaith o gynllunio, cefnogi a darparu ymgysylltu o safon. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth am fonitro a gwerthuso, cyngor ynglŷn â mapio rhanddeiliaid, canllawiau, a thempled ar gyfer cynllunio gweithgareddau. Yn olaf, mae nifer o astudiaethau achos hefyd ar gael ar-lein, sy’n amlygu’r arferion gorau yng ngwaith ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, a’r gobaith yw y bydd hyn yn cynnig syniadau ac yn ysbrydoli academyddion i ehangu eu gweithgareddau ymgysylltu.

Gobeithiwn eich gweld chi yn un o’n sesiynau hyfforddiant yn fuan!