Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Derbyniad i groesawu Ysgolheigion Rhyngwladol

11 Hydref 2016

Ddydd Mercher 5 Hydref mynychais y Derbyniad i Groesawu Ysgolheigion Rhyngwladol yn Neuadd Aberdâr, digwyddiad a agorwyd gan ein His-Ganghellor, er mwyn rhoi croeso cynnes i’n henillwyr ysgoloriaethau rhyngwladol. Fel Prifysgol rhoddon ni groeso i’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr ysgoloriaethau rhyngwladol yn 2016-17 ac roedd hwn yn gyfle i ddathlu’r ffaith ein bod yn dal i gefnogi uchelgais myfyrwyr dawnus.

Cyfarfu enillwyr ysgoloriaethau o dros 45 gwlad yn y Derbyniad, gan greu cysylltiadau newydd a thrafod eu hargraffiadau cyntaf am Gaerdydd.  Roedd y digwyddiad yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r ffaith ein bod yn dod yn fwyfwy rhyngwladol – fe ‘m trawyd gan nifer y myfyrwyr sy’n ei fynychu, mwy nag mewn unrhyw flynyddoedd o’r blaen – a nifer y gwledydd a gynrychiolwyd, gyda llawer yn ei fynychu yn eu gwisg genedlaethol. I lawer o’r myfyrwyr, hwn oedd eu tro cyntaf yn y DU, ond yn hytrach na dangos unrhyw bryderon ynghylch dechrau cyrsiau newydd, roeddent yn dangos ymdeimlad cryf o lawenydd am gael astudio mewn gwlad dramor. Roeddent i gyd yn hynod falch o gael mynychu Prifysgol Caerdydd, ac yn teimlo ei fod yn lle arbennig iawn.

Roedd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr eisoes wedi dechrau ar eu cyrsiau, roeddent yn mwynhau’r addysgu ac roedd ei ansawdd wedi creu argraff arnynt. Roeddent i gyd fel petaen nhw’n gweithio’n galed i wynebu’r heriau ac roedd yn galondid gweld bod sawl cyfeillgarwch cadarn ac annwyl eisoes yn ffurfio.

Mae’r lluniau a dynnwyd yn dangos Neuadd Aberdâr, lleoliad gwych ar gyfer digwyddiad o’r fath, ar ddiwrnod arbennig o heulog, ond nid oeddwn wedi disgwyl cael fy holi cymaint gan y myfyrwyr am y tywydd ac am gyngor ar ddillad! Doedd hi ddim yn ymddangos bod hinsawdd braidd yn anwadal Cymru’n codi ofn ar neb, gan fod llawer wedi dod o wledydd lle roedd y tymheredd cyfartalog isaf yn debyg i dymheredd uchaf Cymru, ac roedd llawer yn gobeithio gweld eira.

CR and KH with International delegation

Daeth myfyrwyr o bob un o’r Colegau, o amrywiaeth o feysydd pwnc a rhai ar gyrsiau israddedig a meistr. Roedd hi’n braf gweld cynrychiolwyr o Chevening a Chomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad yn y digwyddiad hwn, sy’n adlewyrchu amrywiaeth go iawn y dewisiadau astudio sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol yn y Brifysgol.