
- Nodwyd y byddai’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymweld â’r Brifysgol ar 13 Hydref 2016.
- Cafodd y Bwrdd bapur am ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr gan gynnwys sylw am y camau mae’r Colegau a’r Brifysgol am eu cymryd mewn ymateb i’r canlyniadau. Amlygodd y papur nifer o gyfleoedd i wella ymagwedd y Brifysgol wrth gynllunio camau mewn cysylltiad â’r Arolwg, ac awgrymodd rai camau i’w cymryd ar draws y Brifysgol.
- Cafodd y Bwrdd y drafft diweddaraf Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 ac mae angen gwaith manylach erbyn hyn ynglŷn â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol, wedi’u llywio gan argymhellion gan y Gwasanaeth Cynllunio.
- Cafodd y Bwrdd y gofrestr o risgiau mawr. Caiff y gofrestr ei chyflwyno nawr gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor i’w nodi.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
- Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd
- Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata