Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 4 Gorffennaf 2016

4 Gorffennaf 2016
  • Cafwyd trafodaeth ynghylch effaith y bleidlais ddiweddar i adael yr UE, a’r negeseuon i’w hanfon at ymgeiswyr, myfyrwyr presennol a staff.
  • Nodwyd bod Llywodraeth y DU yn parhau i ymrwymo i’r Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil, ac y byddai ail ddarlleniad cyn gwyliau’r haf yn ôl pob tebyg.
  • Cafodd y Bwrdd Strategaeth Diogelwch a Lles y Staff 2016-2019.
  • Cafodd y Bwrdd yr adroddiad chwe misol am Ddiogelwch a Lles y Staff.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am ysmygu ar y campws. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r polisi ac y byddai camau’n cael eu cymryd i ailddatgan a rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i’r polisi ysmygu presennol er mwyn cael negeseuon clir a chyson.  Cytunodd y Bwrdd hefyd i barhau i wahardd pobl rhag defnyddio e-sigarennau ar gampws y brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am yr Adolygiad Ariannol Cyfnodol.
  • Cafodd y Bwrdd amserlen y dyddiadau rhyddhau allweddol ar gyfer Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016. Bydd y canlyniadau’n cael eu gwirio ar 29 Gorffennaf 2016, a bydd yr holl ddata o dan embargo llym tan 10 Awst 2016.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau.
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata