
Ar 27 Mehefin, lansiwyd Canolfan Wybodaeth Caerdydd o Academia Europaea. Cynhaliwyd y lansiad yn ystod 28ain cynhadledd a chyfarfod blynyddol y sefydliad, a gynhaliwyd yn Adeilad Hadyn Ellis. Daeth rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Ewrop ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau ynghyd ar gyfer y digwyddiad hwn, sy’n rhan o Haf Arloesedd a Caerdydd. Mae gan yr Academia rwydwaith o ganolfannau gwybodaeth rhanbarthol yn Barcelona, Wroclaw, Bergen, yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd erbyn hyn. Yr Athro Ole Petersen yw Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Wybodaeth Caerdydd.
Fel y cyfeiriwyd ato yn Newyddion Caerdydd, defnyddiwyd yr achlysur hefyd i gyflwyno Medal Erasmus 2016 i’r Seryddwr Brenhinol yr Arglwydd Martin Rees am ei gyfraniad aruthrol a’i gyflawniadau mewn cysylltiad â gwyddoniaeth Ewropeaidd dros amser maith. Cafwyd darlith gyfareddol ganddo o’r enw From Mars to the Multiverse.
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd eleni oedd trafodaeth ar fecanweithiau cyngor gwyddonol, gyda Syr Mark Walport, Prif Gynghorydd Gwyddonol y DU, yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, a Patrick Child, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Ymchwil ac Arloesedd y Comisiwn Ewropeaidd.
Bu Syr Mark mor garedig â chytuno i aros yng Nghaerdydd am ddiwrnod ychwanegol i gael gwybod rhagor am ein hymchwil ym meysydd y niwrowyddorau, iechyd meddwl, systemau imiwnedd a thonnau disgyrchiant. Cawsom fore llawn cyflwyniadau a dadleuon gwyddonol, cyn cynnal taith dywys gynhwysfawr o Ganolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd a’i chyfleusterau. Nodwyd ansawdd rhagorol ein hymchwil a chawsom gyngor defnyddiol dros ben. Ar ôl y ddadl wyddoniaeth yn y bore, trafodwyd yr Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth, ac roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn bresennol hefyd.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Syr Mark am roi o’i amser i astudio rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghaerdydd ac am drafod datblygiadau niwrowyddonol yn y dyfodol. Diolch iddo hefyd am ei gyngor a’i arweiniad ynglŷn â’r Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth. A ninnau ar drothwy cyfnod eithaf heriol, roedd yn braf cael y cyfle i ddathlu partneriaethau ymchwil rhyngwladol ac atgoffa ein hunain o’r heriau byd-eang sy’n wynebu pob un ohonom.