Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 20 Mehefin 2016

20 Mehefin 2016
  • Nodwyd nad oedd dull ffurfiol o gyflwyno gweithgareddau’r Ganolfan Lled-ddargludyddion i’r Bwrdd ar hyn o bryd. Cytunwyd y dylai’r Bwrdd gael adroddiadau chwe misol am gynnydd a gweithgareddau’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
  • Cynhelir y gweithdai strategaeth olaf ar 28 Mehefin 2016 ac roedd aelodau’r wedi’u gwahodd Bwrdd i fynd i un o’r ddau weithdy. Nodwyd bod yr Is-Ganghellor yn bwriadu dod ag elfennau o’r gweithdai ynghyd er mwyn paratoi amlinelliad cychwynnol drafft o fersiwn nesaf y strategaeth. Bydd hyn yn galluogi’r Bwrdd i’w thrafod ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau.
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredol
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd