Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 14 Mawrth 2016

14 Mawrth 2016
  • Gyda thristwch mawr, nodwyd marwolaeth yr Athro Chris McGuigan, a chydnabuwyd ei gyfraniad enfawr i’r Brifysgol, gan gynnwys ei rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac wrth ddatblygu cyflwyniad REF Caerdydd.
  • Nodwyd bod y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth wedi lansio FLEXIS yn gynharach y diwrnod hwnnw yn yr Ysgol Peirianneg.
  • Nodwyd ymweliad Gareth Davies, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes a Gwyddoniaeth yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Dangosodd ddiddordeb arbennig yn y cysylltiadau trosglwyddo technoleg ac yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol ymateb drafft y Brifysgol i adolygiad yr Arglwydd Stern o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Cymeradwywyd yr ymateb gyda mân newidiadau.
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad gan Lywodraeth Cymru – Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus. Gwnaeth yr adroddiad 33 o argymhellion, ac roedd yr Athro Holford, un o’r cyd-gadeiryddion, wedi addo adolygu’r cynnydd o ran cyflawni argymhellion yr adroddiad ymhen blwyddyn.  Cytunwyd y dylai Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol oruchwylio ymateb y Brifysgol i argymhellion yr adroddiad, gan amlinellu mesurau sydd eisoes ar waith ac argymell mesurau ychwanegol.
  • Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf, dros dro, am gynnydd Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol; byddai rhestr wirio’n cael ei darparu ar gyfer Cyfarwyddwyr y Sefydliadau i sicrhau y gellir casglu data’n briodol gan staff, er mwyn llenwi’r adroddiad.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar yr Academi Doethuriaeth arfaethedig. Cytunwyd bod angen gwneud rhai diwygiadau, cyn cyflwyno’r papur i’r Senedd ei gymeradwyo cyn mynd ger bron y Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar ail bartneriaeth strategol arfaethedig. Cytunwyd ar y papur yn amodol ar rai mân newidiadau, a byddai’n cael ei gyflwyno i’r Senedd ei gymeradwyo.
  • Cafodd y Bwrdd sawl achos busnes fel rhan o gyfarfod y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. Cymeradwywyd yr achos busnes i ehangu’r Rhaglen Iaith Saesneg ac achos busnes Canolfan y Myfyrwyr (yn amodol ar rywfaint o waith pellach) a byddant yn cael eu cyflwyno ger bron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau