Academia Europaea: mae’r Ganolfan Wybodaeth newydd yn cymryd siâp yng Nghaerdydd
11 Mawrth 2016Mae Academia Europaea yn gymdeithas ryngwladol o wyddonwyr ac ysgolheigion o bob disgyblaeth, sy’n arbenigwyr ac arweinwyr yn eu meysydd pwnc, fel y cydnabuwyd gan eu cyfoedion. Gyda chanolfannau eisoes yn gweithredu yn Barcelona, Wroclaw a Bergen, roedd yn newyddion cyffrous yn 2015 fod yr Academia a Chaerdydd wedi cytuno’n ffurfiol i sefydlu pedwerydd canolfan, yma yn y Brifysgol. Bydd Canolfan Wybodaeth Caerdydd yn ysgogi cysylltiadau a rhwydweithiau newydd ar draws ein rhanbarth, gan gynnwys y prifysgolion yng Nghymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgolion GW4 Bryste, Caerfaddon, Caerdydd a Chaerwysg.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr i gwrdd â Louise Edwards, a ddechreuodd yn ei swydd fel Rheolwr y Ganolfan ar ddechrau mis Chwefror, ar ôl gweithio yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd am naw mlynedd. Yr oedd yn dda clywed sut yr ydym eisoes wedi pasio cerrig milltir pwysig tuag at lansiad ffurfiol Canolfan Wybodaeth Caerdydd ym mis Mehefin. Mae gan y Ganolfan ei swyddfa ei hun yn Adeilad Hadyn Ellis ac mae’r Athro Ole Petersen, Ysgol y Biowyddorau, wedi ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Academaidd, gyda chymorth Swyddog Gweithredol, Judith Lockett, ac yn awr hefyd Louise.
Yn bwysig iawn, bydd Academia Europaea yn cymryd rhan mewn llunio polisi’r Undeb Ewropeaidd ar y lefel uchaf, drwy’r Mecanwaith Cyngor Gwyddonol (SAM), a sefydlwyd y llynedd i gefnogi’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ansawdd, cyngor gwyddonol amserol ac annibynnol. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi galwad cyllid i’r Academia a phedwar rhwydwaith Ewropeaidd arall i weithio gyda’i gilydd dros gyfnod o brosiect pedair blynedd i gynhyrchu astudiaethau, cyhoeddiadau, digwyddiadau ac adnoddau gwybodaeth ar y cyd. Ar ôl eu cymeradwyo, disgwylir i’r prosiect gychwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda Chanolfan Caerdydd yn cymryd rhan weithredol drwy gydol yr amser.
Mae’r Grŵp Llywio ar gyfer Canolfan Caerdydd yn cynnwys yr Is-Ganghellor, yr Athro Dianne Edwards FRS a minnau o Gaerdydd, yn ogystal ag aelodau o Brifysgolion Munich, Abertawe a Southampton, y Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd ein cyfarfod cyntaf ym mis Mehefin, i gyd-fynd â Chynhadledd Flynyddol yr Academia Europaea, a gynhelir gan Gaerdydd. Bydd y Gynhadledd Flynyddol yn denu aelodau o bob cwr o Ewrop ac mae ei rhaglen amrywiol yn cynnwys dadl ar Fecanweithiau Cyngor Gwyddonol, yn ogystal â symposia byr ar bynciau megis atgynyrchioldeb ymchwil, ymfudo a hunaniaeth. Uchafbwynt yw’r Ddarlith Erasmus, i’w rhoi gan y Seryddwr Brenhinol, yr Arglwydd Rees o Lwydlo.
Mae cofrestru yn agored i bob aelod o staff yng Nghaerdydd ac mae manylion pellach ar gael yma (gyda ffi cofrestru’n gynnar ar gael tan ganol Ebrill)
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014