
- Nodwyd bod yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi ennill ‘Gwobr Partneriaeth Gydweithredol’ yn y gwobrau ESTnet am ei phartneriaeth gydag Alacrity a Llywodraeth Cymru.
- Nodwyd mai Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd oedd y prif noddwyr yn y Gynhadledd BioCymru ddiweddar. Roedd hyn yn newid pwysig ar gyfer y gynhadledd hon ac roedd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus.
- Nodwyd bod yr holl brosiectau CUROP gradd ‘B’ neu uwch oedd yn bodloni’r meini prawf, wedi’u hariannu.
- Cafodd y Bwrdd bapur am addysgu ymchwil ôl-raddedig. Cytunwyd y byddai dull cyson yn cael ei ddatblygu gyda’r bwriad o’i roi ar waith ar ddechrau 2016/17.
- Cafodd y Bwrdd bapur am gynllun ffioedd a mynediad CCAUC. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r pwyntiau ar gyfer ymateb y Brifysgol i’r ymgynghoriad ynghylch arweiniad drafft CCAUC am ddrafft y cynllun ffioedd a mynediad o 2017/18.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad chwarterol grwpiau llywio adeilad y System Arloesedd
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.