Gwella cyfathrebu mewnol
20 Ionawr 2016Un o’m heriau mwyaf mewn Prifysgol gyda dros 6,000 o staff yw cyfathrebu mewnol. Yn y tîm cyfathrebu canolog rydym yn cynhyrchu ‘Blas’ ar gyfer staff a hynny’n wythnosol i ymgysylltu â staff am newidiadau a newyddion pwysig, ac yn Ionawr 2014 lansiwyd mewnrwyd newydd ar gyfer y Brifysgol. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i wneud llawer mwy i alluogi staff i ddeall ac ymgysylltu â’r llawer o newidiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Rydym wedi gwrando ar Ysgolion ac adrannau ac erbyn hyn wedi sefydlu rhwydwaith cyfathrebu staff i ddarparu cefnogaeth ar gyfer rhai sy’n ymwneud â chyfathrebu yn fewnol.
Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella gwrando a chynnwys staff yn y newidiadau a fydd yn effeithio arnynt. Wythnos Siarad yw ymgyrch sy’n digwydd rhwng 8-12 Chwefror i godi proffil llais cyflogeion ac annog staff i rannu eu barn.
Gwahoddir yr holl staff i fynychu’r Ffair Newid ar 10 Chwefror rhwng 12 a 2y.p. yn Oriel VJ. Bydd staff sy’n ymwneud â’r digwyddiad wrth law i siarad â chi am sut y bydd y newidiadau fel rhan o Y Ffordd Ymlaen yn cael effaith gadarnhaol ar eich rôl ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad llawn gwybodaeth, sy’n cynnwys y system arloesi, porth ymchwil, yammer, y Ganolfan ar gyfer Arloesedd a llawer mwy. Rydym wedi trefnu iddo fod ar brynhawn ble nad oes unrhyw addysgu i’w wneud yn hygyrch i gymaint o bobl ag y bo modd. Darllenwch fwy am y digwyddiad a chofrestrwch.
Rydym hefyd yn hyrwyddo’r etholiad staff a fydd yn digwydd yn ystod wythnos siarad i ddweud wrthym sut yr ydym yn gwneud. Mae’n arolwg byr a fydd yn rhedeg y flwyddyn rhwng yr arolwg staff ac mae’n cynnwys 12 o gwestiynau i roi cipolwg ar sut mae staff yn teimlo.
Fel rhan o’r ymgyrch hon ar gyfathrebu mewnol, rydym yn gweithredu ar ganfyddiadau yn yr arolwg staff a oedd yn nodi y byddai staff yn hoffi deall rôl Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) yn well. Mae gennym set newydd o dudalennau ar y fewnrwyd ar gyfer yr UEB lle mae aelodau yn nodi eu pum blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i ffilm fer lle mae Ruth Williams, cynrychiolydd staff ar y Cyngor, yn cyfweld â’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan ar rôl yr UEB.
Mae’r tudalennau hyn yn cael eu hategu gan set ymestynnol o dudalennau o dan Y Ffordd Ymlaen sy’n esbonio ein cynnydd tuag at ein dangosyddion perfformiad allweddol ac, yn hollbwysig, y swm enfawr o waith sy’n mynd ymlaen ar draws y Brifysgol i gwrdd â’r nodau hyn.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014