
- Cafodd y Bwrdd Gweithredol ymateb CCAUC i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2016/17. Trafodwyd effaith y toriadau arfaethedig ar y Brifysgol.
- Cafodd y Bwrdd Gweithredol strwythur diwygiedig y Fframwaith Llywodraethu. Nodwyd bod y Bwrdd yn adolygu’r fframwaith ddwywaith y flwyddyn. Bydd yr adolygiad nesaf yn cynnwys y gwaith ar Ganolfannau Ymchwil a’r Pwyllgor Moeseg a Gonestrwydd Ymchwil sydd ar waith ar hyn o bryd. Cytunwyd ar y fframwaith, yn amodol ar strwythur wedi’i ddiweddaru ar gyfer Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
- Cafodd y Bwrdd Gweithredol gopi o Femorandwm Sicrwydd ac Atebolrwydd CCAUC. Nodwyd bod y Brifysgol bellach yn gweithredu o dan y fframwaith hwn.
- Cafodd y Bwrdd y Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf presennol a’i rhestr blaenoriaeth.
- Cafodd y Bwrdd bapur gan Ddirprwy Is-ganghellor Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ynghylch ehangu’r Ysgol Pensaernïaeth. Cytunodd y Bwrdd i ehangu’r Ysgol ar garlam.
- Nodwyd bod uwch-staff Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wedi cael ymweliad llwyddiannus â KU Leuven yn ddiweddar.
- Cafodd y Bwrdd Gweithredol Ymateb Grŵp Russell i’r Papur Gwyrdd Addysg Uwch a’r Adolygiad Nyrsys.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredol.
- Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau.
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd.
- Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.
- Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi.
- Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.