Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gwobrau Times High

22 Mehefin 2015

Cafodd Prifysgol Caerdydd ei chynrychioli’n dda yr wythnos ddiwethaf yng Ngwobrau blynyddol Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education. Digwyddiad rhyfeddol, gyda channoedd wedi gwasgu i mewn i seler gwesty yn Llundain a gyda Jack Whitehall fel gwesteiwr, gosododd y noson rhai heriau logistaidd ar gyfer y tîm yng Nghaerdydd. Newid yng ngorsaf gwasanaeth Reading ar y ffordd oedd y pwynt isaf i mi yn bersonol.

Y pwynt uchaf oedd gwylio Janet Peters, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd, yn derbyn Gwobr Tîm Llyfrgell Eithriadol, ar ran y Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yng ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth 2015 y Times Higher Education.

Roedd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol hefyd yn falch iawn i dderbyn “cymeradwyaeth uchel” am ei arweinyddiaeth a’i reolaeth. Mae’r categori’n ceisio canmol y prifysgolion hynny sy’n gallu dangos yr ehangder a’r dyfnder mwyaf o sgiliau arwain a rheoli.

Hefyd yn teithio i’r digwyddiad oedd cydweithwyr o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y categori Tîm Gweinyddiaeth Adrannol Eithriadol.

Y lle’n orlawn a chyfle i ddangos i weddill y sector AU y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd a pha mor ddifrifol y mae’n cymryd arweinyddiaeth a rheolaeth a gwasanaethau proffesiynol.

Darllenwch fwy am ein llwyddiant gwobrau.