Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol 29 Mehefin 2015

29 Mehefin 2015
  • Nododd y Bwrdd fod gweledigaeth ymchwil ddrafft GW4 wedi cael derbyniad da yn y cyfarfod diweddar o Fwrdd GW4.  Daethpwyd i gytundeb ynghylch y pedair thema ymchwil oedd i gael eu datblygu: Dinasoedd; Dadansoddeg Data; Byw’n Iach (Caerdydd i gydlynu); a Dyfodol Cynaliadwy.
  • Nodwyd bod ymgynghoriad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ar yr adolygiad asesu ansawdd newydd gael ei gyhoeddi. Cytunwyd y byddai ymateb y Brifysgol yn dod yn ôl i’r Bwrdd cyn ei gyflwyno.
  • Nodwyd bod y Bwrdd, yn ystod sesiwn 2013/14, wedi cytuno y byddai ymgeiswyr oedd yn bodloni gofynion mynediad y Brifysgol ac yn ceisio lloches yn gorfod talu ffïoedd myfyrwyr cartref yn hytrach na ffïoedd rhyngwladol. Credid bellach fod y gostyngiad hwn yn y ffïoedd yn dal yn annigonol i fyfyrwyr oedd yn ceisio lloches gan nad oeddent yn medru gwneud cais i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ac felly eu bod yn eithriadol o annhebygol o fedru talu lefel y ffïoedd cartref. Cytunwyd y byddai’r ymgeiswyr cyfredol oedd yn ceisio lloches ar gyfer 2015/16 yn cael cynnig hepgor y ffïoedd dysgu yn llawn, a bod y ffïoedd yn cael eu hepgor yn llawn yn achos uchafswm o ddau fyfyriwr oedd yn ceisio lloches o 2016/17 ymlaen.
  • Nodwyd bod yr Athro Holford wedi arwain dirprwyaeth o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg i KU Leuven yr wythnos ddiwethaf, a bod yr ymweliad cynhyrchiol wedi canolbwyntio ar Horizon 2020, gweithgareddau Ymchwil Ôl-raddedig a chyfnewid myfyrwyr.
  • Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn amlinellu hyd a lled y cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe ym maes ymchwil. Nodwyd bod nifer a gwerth y prosiectau yn sylweddol. Cytunwyd y byddai Ms Sanders yn gweithio gyda’i chymheiriaid yn y prifysgolion eraill i gael hyd i’r ffordd orau o hyrwyddo’r wybodaeth hon.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol y Rhag Is-ganghellor. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithgaredd misol y Rhag Is-ganghellor, gan gynnwys cyfarfod y Gweithgor Tablau Cynghrair a’r Grŵp Cynllunio Hirdymor. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod y Rhag Is-ganghellor wedi derbyn gwahoddiad yr Athro Janet Beer, Is-ganghellor Prifysgol Lerpwl, i ddod yn aelod o’r Clwb 30%. Partneriaeth a arweinir gan fusnes yw’r Clwb 30%, a sefydlwyd yn 2010 i annog ffyrdd newydd o feddwl ym maes amrywiaeth.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Nododd yr adroddiad fod dyfarniadau ymchwil y Coleg, ar 31 Mai, wedi codi £10.85 miliwn ers yr un adeg y llynedd, a bod ceisiadau am grantiau hefyd yn sylweddol uwch na’r un adeg y llynedd. Mae’r Coleg wedi penodi Rheolwr Addysg ar gontract cyfnod penodol o 12 mis, i gychwyn ar 1 Medi. Cynhaliwyd yr ail Gynhadledd STEM flynyddol gyda Choleg Dewi Sant ar 19 Mehefin. Cynullwyd Panel o Athrawon Ymgynghorol i lywio ein gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer y digwyddiad STEM Live, a gynhelir ym mis Medi.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn ystod y mis diwethaf. Amlygwyd hefyd fod y Coleg wedi lansio Cyfres o Seminarau Addysg a fydd yn ceisio arddangos arfer da ar draws y Coleg, gan ddefnyddio arbenigedd a geir yn y sector, a galluogi Ysgolion i gydweithio ar faterion neu heriau cyffredin. Cynhaliwyd y seminar gyntaf yr wythnos ddiwethaf, ar destun Adolygiad Cymheiriaid o Ddysgu ac Addysgu. Roedd 50 o bobl o wahanol rannau o’r Coleg yn bresennol, a chawsant gyflwyniadau a thrafodaeth ynghylch gwahanol fodelau a heriau wrth roi Adolygiad Cymheiriaid ar waith yn effeithiol.
  • Adroddiad am y Prosiectau Ystadau.
  • Diweddariad ar y System Arloesedd. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf ynghylch gweithgaredd diweddar. Nodwyd mai prif ffocws tîm y System Arloesedd yw datblygu achosion busnes ar gyfer pob un o’r adeiladau cyfalaf. Cymeradwywyd yr achosion busnes terfynol gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol a’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau ar 3 ac 16 Mehefin yn eu tro. Bu’r Athro Thomas hefyd yn rhoi cyflwyniad yng nghyfarfod Aelodau Lleyg y Cyngor ar 16 Mehefin. Mae’r adborth a gafwyd gan y grŵp hwn yn cael ei ymgorffori i’r achosion busnes ar hyn o bryd. Bydd yr achosion busnes yn ceisio cymeradwyaeth derfynol gan Gyngor y Brifysgol ar 6 Gorffennaf 2015.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-ganghellor Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf o ran cynnydd Canolfan Bywyd y Myfyriwr, gan fod y Cyngor wedi cymeradwyo’r achos busnes interim ar 18 Mai 2015. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i asesu’r holiaduron cyn-gymhwyso a dderbyniwyd mewn ymateb i’r gystadleuaeth ddylunio, gyda golwg ar wahodd uchafswm o bum tîm dylunio i dendro am y prosiect. Nododd yr adroddiad hefyd bod prosiectau Learn Plus ac Amserlennu a Chadw Ystafelloedd yn cyflawni eu bwriadau, a bod Mannau Dysgu Ffisegol (Physical Learning Spaces) yn gwneud cynnydd, gan fod gwaith eisoes wedi cychwyn i adnewyddu 11 darlithfa fawr yn ystod yr haf.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Nododd yr adroddiad y cynnydd sylweddol a wnaed o ran y prosiect cadarnhau a chlirio, sy’n cynnwys nifer o newidiadau ymarfer strategol a gweithredol ar gyfer mis Awst 2015. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ynghylch rhai newidiadau staffio. Penodwyd Matthew Williamson yn Gofrestrydd y Coleg (ar hyn o bryd ef yw Rheolwr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd). Bydd yn pontio i’w swydd newydd yn ystod mis Gorffennaf ac yn cychwyn yn swyddogol ar 1 Awst. Mae Matt yn cymryd lle Anna Verhamme, sy’n cychwyn yn ei swydd newydd, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol a Llywodraethu, ar 1 Gorffennaf. Mae’r Athro Stuart Allan wedi cael ei benodi’n Bennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol. Penodwyd yr Athro Kenneth Hamilton yn Bennaeth parhaol yr Ysgol Cerddoriaeth (roedd gynt yn Bennaeth gweithredol). Penodwyd yr Athro Gillian Bristow yn Ddeon y Coleg ar gyfer Ymchwil o 1 Awst 2015.
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau o bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol.
  • Adroddiad Gweithgaredd Misol ar Ymchwil ac Arloesedd. Roedd yr adroddiad yn nodi bod Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltiad wedi cwrdd â phrif academyddion Grwpiau Arbenigwyr RCUK y chwe Phrifysgol. Sefydlwyd y Grwpiau Arbenigwyr yn gynharach eleni i gynghori’r Dirprwy Is-ganghellor ynghylch rhyngweithio’r Brifysgol â’r Cynghorau Ymchwil. Rhoes yr adroddiad hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am Wobrau Arloesedd ac Effaith 2015, gan nodi bod y digwyddiad wedi cael derbyniad da iawn, a’i fod wedi denu cryn gyhoeddusrwydd i enillwyr y gwobrau. Cafwyd adborth rhagorol hefyd gan westeion yn y digwyddiad, gan gynnwys cadarnhad pendant o werth dylanwad y Brifysgol gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol trwy weithio ar y cyd.