Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Tyfu gallu arweinyddiaeth mewn dysgu ac addysgu

4 Mehefin 2015

Mae’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Arweinwyr Timau Ymchwil yn rhan sefydledig a llwyddiannus o’n portffolio datblygu staff. Heddiw, fe gynhaliwyd y sesiwn olaf o Arwain Timau Addysgu; cwrs byr newydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu gallu arweinyddiaeth mewn dysgu ac addysgu, a redir ar y cyd â’r Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch.

Cymerodd deuddeg aelod o staff (pedwar o bob coleg) ran yn y garfan beilot. Mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn a hoffwn ddiolch i’r grŵp am fod mor agored a chyfrannu mor llawn at y rhaglen. Un o’r prif fanteision a amlygwyd gan y cyfranogwyr yn eu hadborth cychwynnol oedd y cyfle i gymryd saib i fyfyrio yn weithredol ar yr hyn y mae arwain timau addysgu mewn gwirionedd yn ei olygu, rhannu eu profiadau gydag eraill sy’n wynebu heriau tebyg, a threulio amser gyda chydweithwyr sy’n rhoi gwerth ar ddysgu ac addysgu. Yn wir, o’r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae’r grŵp eisoes yn trefnu i gyfarfod bob hyn a hyn er mwyn caniatáu i’r elfen gefnogi bwysig honno ddatblygu i fod yn rhwydwaith barhaus ar gyfer eu hunain a charfanau yn y dyfodol.

Mae angen i ni yn awr gynnal gwerthusiad ffurfiol o’r rhaglen gyda golwg ar benderfynu sut y gallwn ei chefnogi fel rhan o bortffolio parhaus DPP y Brifysgol ar gyfer staff academaidd.