Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 8 Mehefin 2015

8 Mehefin 2015
  • Cafodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol bapur oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob cais sy’n cael ei baratoi yn y Brifysgol am arian o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae prosiect FLEXIS ymhlith y ceisiadau hyn, a disgwylir canlyniad y cais ar 24 Mehefin 2015. Cytunodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i dderbyn £4.6 miliwn o gyfalaf o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Dwyrain Cymru ar gyfer CUBRIC II.
  • Cafodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ddrafft y weledigaeth ymchwil ar gyfer GW4. Nodwyd bod y themâu yn eang dros ben, yn cyd-fynd â meysydd yr ‘heriau mawr’, ac yn adlewyrchu’r trafodaethau a gafwyd ar Ddiwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd GW4. Byddai pob Prifysgol yn cydlynu thema, a Byw’n Iach fyddai thema Caerdydd.
  • Cafodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol y wybodaeth ddiweddaraf am y Fframwaith Llywodraethu. Gofynnwyd am rai ychwanegiadau er mwyn iddo gynnwys y broses benodi a phrif gyfrifoldebau’r Rhag Is-Ganghellor a’r Dirprwy Is-Gangellorion Thematig.  Ar ôl ei ddiweddaru, caiff y papur ei gyhoeddi ar y fewnrwyd.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad am Weithgareddau Ymgysylltu. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac am y gweithgareddau ymgysylltu â llywodraethau Cymru a’r DU. Nododd hefyd y digwyddiadau a’r cynlluniau sydd ar y gweill, gan gynnwys y rhai a gynhelir yr Eisteddfod. Bydd y rhain yn cynnwys trafodaeth am ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, lansio ‘Cymraeg i Bawb’ a thrafodaeth am Arloesedd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Adroddiad am Weithgareddau Rhyngwladol. Ynddo, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch gyda Leuven KU, Tsieina a Hong Kong, ymweliad Llysgennad yr UD, a datblygiadau Horizon 2020 a Vision 2020.