Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 23 Mawrth 2015
23 Mawrth 2015- Cafodd y Bwrdd achos busnes ynghylch cynnig i ailddatblygu llawr cyntaf a llawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr. Byddai’r achos, a noddwyd gan yr Athro Price, y Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, ac a luniwyd gan Undeb y Myfyrwyr, yn gwella’r fynedfa i’r adeilad o Ffordd Senghennydd ac yn cael gwared ar y darn ymwthiol uwchben. Cytunwyd bod angen uwchraddio ac ailwampio’r gofod hwnnw ac argymhellwyd yr achos o blaid hynny i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau. Nodwyd hefyd fod y gwelliannau o fantais i gampws Parc Cathays a bod mater gwella’r gofod ym Mharc Mynydd Bychan yn destun ymchwil ar hyn o bryd.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes interim y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr i roi’r newyddion diweddaraf iddo am gynnydd y cynllun a’r amserlenni tebygol. Nodwyd y câi’r gystadleuaeth ddylunio ei lansio ym mis Ebrill ac y caiff rhestr fer o bum tîm eu dewis a’u gwahodd i dendro. Caiff y dyluniadau eu tafoli gan banel ddiwedd Medi a bydd y tîm dylunio buddugol yn gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu dyluniad terfynol yr adeilad. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r broses o recriwtio Rheolwr(aig) Rhaglen a Rheolwr(aig) Prosiect i sicrhau cyflwyno’r achos busnes llawn yn brydlon ym mis Rhagfyr 2015. Bydd yr achos yn awr yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor iddynt gael y newyddion diweddaraf amdano.
- Cafodd y Bwrdd adroddiad ar gynnydd adeiladweithiau newydd y System Arloesi. Nodwyd bod astudiaeth dichonoldeb fanwl yn cael ei gwneud ar hyn o bryd ac y byddai honno’n helpu i fwydo i’r penderfyniad ynghylch pa swyddogaethau a gaiff eu cyd-leoli yn nau adeilad cyntaf y System Arloesi. Daw adroddiad ac ynddo’r newyddion diweddaraf yn ôl i’r Bwrdd ar 20 Ebrill cyn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau yr wythnos ddilynol. Cytunwyd hefyd i sefydlu Grwpiau Llywio Adeiladau, y naill i’w gadeirio gan yr Athro Holford a’r llall gan yr Athro Boyne.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes a gynigiai adeiladu ar y prosiect ynghylch amserlennu. Cytunwyd â’r achos, a bydd y prosiect yn awr yn symud gweddill yr Ysgolion ymlaen i ddatrysiad ar-lein ac integredig o fater amserlennu.
- Mae’r Brifysgol wedi cael cais i gyflwyno ymateb sefydliadol i alwad yr NERC am flaenoriaethau buddsoddi, ymateb a fyddai’n helpu’r NERC i nodi pa themâu lefel-uchel i ganolbwyntio arnynt i gael yr effaith fwyaf ar yr heriau hynny. Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol. Nodwyd bod yr Ysgolion sy’n cael cyllid gan yr NERC wedi cyfrannu i’r ymateb ac i hwnnw gael ei ddatblygu gyda chymorth Cadeirydd Grŵp Arbenigol NERC y Brifysgol. Cymeradwyodd y Bwrdd yr ymateb.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Cafwyd y newyddion diweddaraf ynddo am ddatblygu cyd-brosiect cyfrifiadurol gyda Phrifysgol Beijing Normal i’w gyflawni ar Gampws Zhuhai. Nododd yr adroddiad y gwaith a wneir gyda’r Gofrestrfa i geisio cwtogi ar y gwallau mewn papurau arholiad. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith fod nifer y dyfarniadau ymchwil y mae’r Colegau wedi’u cael wedi codi cryn dipyn ers yr un adeg y llynedd a’i fod yn uwch na’r nifer a gafwyd dros y ddwy flynedd flaenorol.
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf am gynnydd y gwaith ystadau ar gyfer pencadlys y Coleg, a nodwyd bod disgwyl symud iddo ar 30 Mawrth. Nododd yr adroddiad yr adolygiadau parhaus o addysgu ôl-raddedigion ac ymchwil ôl-raddedigion ar lefel y Coleg.
- Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Cafwyd gwybod ynddo am y camau a gymerwyd yn ystod y mis diwethaf.
- Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi. Ynddo cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y dyfarniadau ymchwil a gafwyd, ac am y ceisiadau a gyflwynwyd, yn ystod saith mis cyntaf y flwyddyn ariannol, hyd at 28 Chwefror 2015. Mae’r dyfarniadau hyd yn hyn yn dangos lefel iach iawn o gynnydd.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014