
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr HEFCE yn ddiweddar wedi cynnal eu digwyddiad myfyrio cyntaf ar y broses REF2014 a’r gwersi i’w dysgu. Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Madeleine Atkins (Prif Weithredwr) a David Sweeney (Cyfarwyddwr Ymchwil, Addysg a Chyfnewid Gwybodaeth) HEFCE ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS (y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth), Yr Athro Philip Nelson (Prif Weithredwr, EPSRC) a nifer o gynrychiolwyr cwmni sydd yn cyfrannu at y gwerthusiad o’r REF, gan gynnwys RAND Europe, Technopolis ac Elsevier. Dewch i wybod mwy am rai o’r canfyddiadau rhagarweiniol.
Mynychodd Rick Delbridge ar fy rhan ac mae ei adroddiad yn tynnu sylw at nifer o bwyntiau o’r diwrnod:
- Y brif farn yw bod REF2014 wedi ei reoli’n dda ac fel ymarfer wedi mynd yn ei flaen yn esmwyth;
- Tybid bod y cyflwyniad gwerthusiad o effaith yn llwyddiant a disgwylir iddo barhau;
- Dangoswyd eto bwysigrwydd adolygu gan gymheiriaid ac mae’r dull hwn, ochr yn ochr â darparu mesurau meintiol o bwys, lle bo hynny’n briodol, yn debygol o aros yr opsiwn a ffafrir ar gyfer asesu cynnyrch ymchwil;
- Roedd REF2014 yn ymarfer drud, gyda’r gwaith o baratoi cyflwyniadau am gydran Effaith yn unig, wedi ei amcangyfrif i fod wedi costio £55m i sefydliadau.
Bydd asesiad llawnach ar gael ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Ond yr arwyddion cynnar yw bod y REF yn y dyfodol yn cynnwys llawer o’r un nodweddion â REF2014.