Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 16 Mawrth 2015
16 Mawrth 2015- Cafodd y Bwrdd achos busnes gan Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd a gynigiai y dylid creu biofanc newydd i Brifysgol Caerdydd. Byddai’r biofanc newydd yn cyfuno’r wyth biofanc gwahanol y mae’r Brifysgol yn eu gweithredu ar hyn o bryd. Byddai hefyd yn sicrhau llywodraethu cyson ac yn codi’r Brifysgol i’r un lefel â’i chystadleuwyr yng Ngrŵp Russell. Cytunodd y Bwrdd i’w symud yn ei flaen ar yr amod y gwneir rhywfaint o waith pellach ar arbedion effeithlonrwydd, trefniadau-wrth-gefn a’r posibilrwydd o ymgysylltu â phartneriaid GW4.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes gan Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd dros ailwampio ystafelloedd Phantom Head yr ail lawr, sef cyfleuster addysgu yn yr Ysgol Ddeintyddol sy’n rhoi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig eu profiad cyntaf o gael hyfforddiant technegol ac efelychol. Cytunwyd bod angen uwchraddio ac ailwampio’r gofod hwnnw ac y câi’r achos ei argymell i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.
- Cawsai’r Brifysgol ei gwahodd i gymryd rhan mewn dau gynllun mawr a gwahanol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (yr ESF). Byddai’r cynlluniau, sef Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth II (KESS II) a’r Academi Defnyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), yn darparu cyllid rhannol ar gyfer efrydyddiaethau PhD ac MRes newydd. Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan ynddynt wedi’u gwahodd i dalu costau gweithgarwch recriwtio i’r efrydyddiaethau, gan gychwyn ar 1 Hydref 2015, a hawlio’r costau yn ôl wedi hynny os/pan ddyfernir cyllid. Byddai gofyn i’r Brifysgol dalu pob cost anuniongyrchol a chyfrannu elfen o amser y staff parhaol i fodloni’r gofynion o ran cyllid cyfatebol. Cytunwyd i gymeradwyo talu costau cymryd rhan yn KES II a/neu M2A cyn i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wneud y dyfarniadau, a thalu’r costau hynny o gyllidebau’r Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol. Mae angen gwneud rhagor o waith gweithredu a chynllunio ariannol manwl pellach ar gyfer y naill gynllun a’r llall: mae KES II i’w arwain gan yr adran Ymchwil ac Arloesi gan ymgynghori â’r Colegau, ac M2A i’w arwain gan ASTUTE a’r Ysgolion Peirianneg a Busnes gyda chymorth yr adran Ymchwil ac Arloesi.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol ar Weithgarwch: Safonau Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr. Rhoes ef y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgarwch ynglŷn â’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr a’r Portffolio Newid Addysg (yn arbennig ynghylch datblygiadau o ran prosiectau Gofodau Dysgu Ffisegol ac Amserlennu).
- Adroddiad Misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor. Ynddo, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor, gan gynnwys gwaith ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan nodi’r digwyddiadau a gynhelir i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Menywod, a’r newyddion diweddaraf am waith Gweithgor y Tabl Cynghrair.
- Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol. Cafwyd y newyddion diweddaraf ynddo am ymweliad dirprwyaeth o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol â Leuven yn ddiweddar i drafod cydweithredu ynghylch Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymweliad gan Brifysgol Beijing Normal â Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn ddiweddar i drafod y gyd-raglen gyfrifiadureg. Mae’n nodi’r ymdrechion parhaus sydd ar waith y tri Choleg i hybu cyflwyno rhagor o geisiadau i Horizon 2020 i noddi cyd-brosiectau ymchwil i’r llinynnau ‘Heriau i Gymdeithas’ a ‘Technolegau Arwain a Galluogi’, a hefyd yr anogaeth a roir i staff academaidd a staff ymchwil i chwilio am gyfleoedd drwy GW4.
- Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac â’r gweithgareddau ymgysylltu â llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.
- Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer diwrnod cwrdd-i-ffwrdd y Gwasanaethau Proffesiynol ym mis Ebrill yn mynd yn ei flaen ar y cyd â Chofrestryddion y Colegau. Canolbwynt y diwrnod hwnnw fydd datblygu Cynllun Gweithredu y Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer 2015/16.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014