Tyfu newyddiadurwyr Cymraeg y dyfodol
11 Mawrth 2015Roeddwn wrth fy modd i gyflwyno’r anerchiad croeso heno yn lansiad y BA newydd mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth. Roedd llu o ffigyrau cyfarwydd o’r cyfryngau yng Nghymru yn bresennol, gan gynnwys Betsan Powys Radio Cymru, Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick, Siân Morgan o’r Byd ar Bedwar, a Chyfarwyddwr Golygyddol ‘Golwg’ Dylan Iorwerth, yn ogystal â Menna Richards, cyn-Bennaeth BBC Cymru a chyn Is-Lywydd Prifysgol Caerdydd. Gyda’i gilydd darparwyd un o uchafbwyntiau’r noson: trafodaeth panel am eu profiadau fel darlledwyr a newyddiadurwyr Cymraeg. Deunydd diddorol!
Roedd yn wych, hefyd, i gwrdd â disgyblion o nifer o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol ac i allu eu cyfeirio tuag at bortffolio cynyddol o ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y digwyddiad heno yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i ddyfodol y sefydliad a hefyd y rôl allweddol y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaetholyn ei chwarae wrth ddatblygu gallu ar gyfer addysgu cyfrwng Cymraeg ac ymchwil ar draws Cymru. Erbyn hyn mae dwy swydd a ariennir gan y Coleg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth ac Astudiaethau Diwylliannol, gyda deuddeg swydd o’r fath i gyd ar draws y Brifysgol a phump arall yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd.
Mae’r galw am raddedigion sydd â’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu. Fel Prifysgol flaenllaw Cymru, mae gennym rôl bwysig i’w chwarae i gwrdd â’r angen hwnnw. Mae eisoes dros 3,000 o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yma yng Nghaerdydd: drwy gynnig rhaglenni fel y BA mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth, rydym yn gobeithio gweld y rhif hwnnw yn tyfu ymhellach. Llongyfarchiadau mawr i Sara Moseley a’r tîm am drefnu digwyddiad lansio mor ysbrydoledig.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014