Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gweithio gyda’n gilydd i gyflawni polisi da ar gyfer pawb

3 Mawrth 2015

Roedd yn bleser bod yn bresennol ar gyfer digwyddiad ymylol ymchwil iechyd meddwl wedi ei arwain gan Brifysgol yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’r penwythnos hwn. Roedd y sesiwn, o’r enw “Combatting Stigma, Changing Lives: Driving New Approaches to Mental Health” yn dwyn ynghyd arbenigedd o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, yn seiliedig yn y Brifysgol, ynghyd ag arweinydd a llefarydd iechyd y blaid, Kirsty Williams AC, ac Ewan Hilton, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal; elusen iechyd meddwl Cymreig.

Mae presenoldeb y Brifysgol yng nghynadleddau’r pleidiau yng Nghymru yn gyfle i’n academyddion i ysgogi trafodaeth a hysbysu llunio polisi. Gyda’r Brifysgol yn yr ail safle yn y DU o ran effaith yng nghanlyniadau’r REF y llynedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein harbenigedd yn parhau i gefnogi polisi da yng Nghymru a thu hwnt.

O bosibl, mynd i’r afael â’r stigma tuag at salwch meddwl yw’r her fawr nesaf sy’n wynebu gwleidyddion, ymchwilwyr, ac ymarferwyr fel ei gilydd. Fel y dywedodd Cyfarwyddwr NCMH, Yr Athro Ian Jones, wrth y cyfarfod, sawl degawd yn ôl roedd siarad am ganser yn rhywbeth gwaharddedig. Heddiw, fodd bynnag, mae miliynau ledled y byd yn goroesi canser diolch i ymchwil feddygol. Efallai nad yw’n hawdd siarad am salwch meddwl, ond mae’n sgwrs a all ddatgloi cymaint o ddrysau. Mae gan ymgyrch y Ganolfan i gasglu data oddi wrth filoedd o aelodau o’r cyhoedd yr addewid i roi i ymchwilwyr y deunyddiau i archwilio’r ffactorau genetig, seicolegol ac amgylcheddol sy’n arwain at broblemau iechyd meddwl.

Wrth siarad yn y digwyddiad, rhannodd Laura Dernie, hyrwyddwr ar gyfer gwaith y Ganolfan, ei phrofiad ei hun o fyw drwy iselder, ymladd stigma, ac apelio at bobl i helpu gydag ymchwil. Gallwch ddarganfod mwy am daith Laura yma.

Rwy’n gobeithio y bydd stori ysbrydoledig Laura yn eich annog i rannu eich profiadau eich hun, ac ystyried cymryd rhan yn astudiaeth y Ganolfan. Trwy weithio gyda’n gilydd i oresgyn stigma a gwella ein dealltwriaeth, yna gyda’n gilydd gallwn drechu salwch meddwl.