Cydweithrediad rhwng prifysgolion a busnesau dan arweiniad yr Athro Fonesig Ann Dowling
19 Chwefror 2015Mae’r berthynas rhwng y byd academaidd a busnes yn hanfodol i dwf economaidd y DU, gydag arloesi yn darparu’r ysgogiad deinamig ar gyfer ymchwil arloesol yn y dyfodol a datblygiadau masnachol.
Mae Arloesi, fodd bynnag, yn gofyn am amgylchedd maethlon o gyd-ddealltwriaeth ac adeiladu perthynas tymor hir. Fel y cyfryw, roeddem yn hynod falch o groesawu yn ddiweddar adolygiad yr Athro Fonesig Ann Dowling DBE FRS FREng, Cadeirydd Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau Llywodraeth y DU, i’r cydweithio rhwng y byd academaidd a byd busnes. Roedd y Fonesig Ann wedi dewis Prifysgol Caerdydd fel y lleoliad ar gyfer ei deialog agoriadol, ac roedd yn ddiddorol clywed gan arweinwyr busnes lleol ac academyddion eu profiadau yn rhyngweithio â’i gilydd.
Mynychodd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sectorau economaidd (y cyfryngau, peirianneg ac elusen, i enwi dim ond rhai) y drafodaeth er mwyn rhannu eu barn ar yr ymgysylltiad rhwng y byd academaidd a diwydiant, yn ogystal ag i dynnu sylw at y llwyddiannau sylweddol roeddent wedi eu profi yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yna hefyd le i drafodaeth ar rai o’r ffyrdd y gallwn wella cysylltiadau, gyda llawer o awgrymiadau wedi eu rhoi ar sut y gall polisi’r llywodraeth wella cyfleoedd strategol. Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus dros ben, gyda dadl atyniadol a gonest wedi ei symbylu gan wybodaeth sylweddol gan y rhai a oedd yn bresennol. Darparodd y lefel o brofiad ac arbenigedd yn yr ystafell fewnwelediad trawiadol ac addysgiadol i mewn i arloesi yn Ne Cymru, a bu’n gymorth i dynnu sylw at gyfleoedd y dyfodol ar gyfer y croes-beillio o ran gwaith ymchwil a chymwysiadau masnachol.
Fel tyst i hyn, mae un o’r cyfranogwyr, Phil George, perchennog Cwmni Cynhyrchu Teledu a Ffilm Annibynnol Green Bay a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol y Prosiect Economi Greadigol wedi derbyn gwahoddiad gan y Fonesig Ann Dowling i ymuno â’r Grŵp goruchwylio’r adolygiad, gan eu bod yn awyddus i wella cynrychiolaeth o’r diwydiannau creadigol.
Yr hyn a oedd fwyaf o ddiddordeb i Brifysgol Caerdydd oedd ei fod wedi rhoi cyfle i ni wrando’n astud ar arweinwyr busnes blaenllaw ac i fyfyrio ar ein harferion ein hunain. Gall agor sianeli cyfathrebu o’r fath fod o fudd i ddatblygiad ein diwylliant ein hunain o arloesi ar draws y Brifysgol a bydd yn ein galluogi i wneud y mwyaf o’r effaith sylweddol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, y gall ein hymchwil ei greu.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014