
- Cafodd y Bwrdd bapur gan y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter ar y Gronfa Isadeiledd Ymchwil (yr RIF). Cytunwyd i barhau i fuddsoddi £2M yn y Gronfa ar gyfer 2015/16 ond adolygu’r cynllun ar gyfer y flwyddyn wedyn a datblygu trefn fanwl i restru blaenoriaeth yr offer ymchwil.
- Cafodd y Bwrdd bapur trafod gan y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ar ei thaith i Awstralia a Singapore yn ddiweddar i weld sut yr oedd sefydliadau o safon fyd-eang y tu allan i’r DU yn ymagweddu at heriau cyflwyno dysgu ac addysgu o safon mewn cyd-destun ymchwilddwys. Cytunwyd i ddatblygu cynigion ynghylch sut olwg a allai fod ar wythnos ychwanegol yn y cwricwlwm, adolygu’r effaith o ran y gost, argaeledd staff, llwyth gwaith, ystafelloedd ac ati, a dod â hynny’n ôl i gyfarfod o’r Bwrdd yn y dyfodol.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiad rheolaidd hwn:
- Adroddiad Misol ar Weithgarwch: Safonau Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gynnydd ynghylch eitemau yn y Portffolio Newid Addysg a chynllun gweithredu Asesu ac Adborth.